Rheolwr Swyddfa’r Gyfadran

Swansea, WLS, GB, United Kingdom

Job Description

Amdanom ni:




Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o 50 miliwn, sy'n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.


Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.

Y rol:




Mae cyfle cyffrous wedi codi i arwain Swyddfa Gyfadran fywiog wedi'i lleoli yn ein safle yng Ngorseinon.

Llawn amser (37 awr yr wythnos)

Parhaol

38,859-41,170 y flwyddyn

Campws Gorseinon


Cyfrifoldebau Allweddol:



Cyfrifol am sicrhau bod yr holl systemau gweinyddol canolog a Chyfadrannol yn cael eu gweithredu'n gyson ac yn gywir gan gefnogi rheolaeth effeithiol y Gyfadran Sicrhau bod swyddfa'r Gyfadran yn cael ei rhedeg yn effeithlon gan ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i Reolwyr, staff a dysgwyr Adrodd i Ddeon y Gyfadran

Amdanoch chi:



5 TGAU (gradd A-C) gan gynnwys Saesneg a Mathemateg neu gyfwerth Profiad blaenorol o gofnodi, dadansoddi data a chynhyrchu ystadegau Profiad o weithio gyda chyllidebau Sgiliau gweinyddol rhagorol

Buddion:



28 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae'r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2024) Cynllun Pensiwn Athrawon a chyfraniad cyflogwr o 28.68% ar gyfartaledd (2024) 2 ddiwrnod lles i staff Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau'r Coleg Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recriwtio/buddion-a-lles

Angen cymorth gyda'ch cais?

Cliciwch ein tudalen canllaw.



Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo'u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu'n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi'u cynrychioli'n ddigonol o fewn ein sefydliad.


Os hoffech ymgymryd a'r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i'n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a'r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.


Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio a'r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd a gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno'ch cais yn gynnar.

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).

Beware of fraud agents! do not pay money to get a job

MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.


Related Jobs

Job Detail

  • Job Id
    JD3203022
  • Industry
    Not mentioned
  • Total Positions
    1
  • Job Type:
    Full Time
  • Salary:
    Not mentioned
  • Employment Status
    Permanent
  • Job Location
    Swansea, WLS, GB, United Kingdom
  • Education
    Not mentioned