Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o 50 miliwn, sy'n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.
Y rol:
Darlithydd Peirianneg Drydanol (Tal awr)
Tal awr Cyfnod penodol 17.53 - 34.51 yr awr,
yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad
Campws Tycoch
Cyfrifoldebau Allweddol:
Cynllunio, paratoi a chyflwyno gwersi ar draws lefelau 1 i 3.
Sicrhau bod strategaethau addysgu a dysgu a deunyddiau addysgu wedi'u cynllunio'n briodol ac yn diwallu anghenion amrywiol pob dysgwr.
Asesu a monitro cynnydd dysgwyr, gosod targedau a chynnal cofnodion gwaith a chyflawniad.
Sicrhau bod yr amgylchedd dysgu yn ysbrydoledig a chynnal cysylltiadau diwydiannol i wella profiad y dysgwr.
Amdanoch chi:
Brwdfrydedd dros y diwydiant a'r broses addysgu a dysgu.
Brwdfrydedd dros ddatblygiad holistaidd pob dysgwr unigol a grwpiau o ddysgwyr.
Cynrychioli'r Coleg mewn modd proffesiynol gan arddangos uniondeb bob amser.
Meddu ar gymhwyster Lefel 3 mewn Peirianneg Drydanol.
Buddion:
28 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae'r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2024)
Cynllun Pensiwn Athrawon a chyfraniad cyflogwr o 28.68% ar gyfartaledd (2024)
2 ddiwrnod lles i staff
Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau'r Coleg
Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recriwtio/buddion-a-lles
Angen cymorth gyda'ch cais?
Cliciwch ein tudalen canllaw.
Os nad oes gennych gymhwyster asesu, gall Coleg Gwyr Abertawe gynnig cymorth ac arweiniad i ymgeiswyr llwyddiannus fel y gallant ennill dyfarniad/tystysgrif dan fframwaith TAQA. Cyflawnir hyn trwy ein cyfleuster datblygiad proffesiynol. Dysgwch ragor: https://www.gcs.ac.uk/cy/cyrsiau
Os ydych chi'n meddu ar gymhwyster neu ddyfarniad Asesu D32/D33/A1, cysylltwch a ni! Mae'r rhain yn gymwysterau dilys a chydnabyddedig. Mae Coleg Gwyr Abertawe yn gallu cynnig hyfforddiant gloywi i ymgeiswyr llwyddiannus er mwyn i chi ddiweddaru eich cymhwyster asesu.
)
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo'u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu'n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi'u cynrychioli'n ddigonol o fewn ein sefydliad.
Os hoffech ymgymryd a'r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i'n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a'r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio a'r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd a gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
Beware of fraud agents! do not pay money to get a job
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.