Darlithydd Mewn Ffotograffiaeth/dylunio Graffeg (banc)

Swansea, WLS, GB, United Kingdom

Job Description

Darlithydd mewn Ffotograffiaeth/Dylunio Graffeg (Banc)



Amdanom ni:




Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o 50 miliwn, sy'n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.


Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.

Y rol:




Mae'r adran Celfyddydau Gweledol yn chwilio am ymarferydd profiadol i ddarparu cyrsiau ffotograffiaeth, dylunio graffeg a darlunio digidol i ddysgwyr sy'n astudio rhaglenni celf a dylunio galwedigaethol. Mae meddu ar brofiad o ddylunio gemau a defnyddio Blender ac Adobe Creative yn fanteisiol.

17.53 -34.51 yr awr (yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad)

Byddwch yn cael eich talu mewn ol-daliadau e.e. byddwch yn derbyn tal am yr oriau a weithiwyd ym mis Mai ym mis Mehefin, ac yn y blaen.

Oriau: Newidyn

Campws Llwyn y Bryn, Abertawe


Buddion:



Mynediad i Raglen Cymorth Gweithwyr sy'n cynnig gwasanaeth cwnsela 24/7 Mynediad i hyfforddwr ffitrwydd staff/maethegydd/dosbarthiadau ymarfer corff Disgownt ar gyfer aelodaeth Campfa Chwaraeon - 60 y flwyddyn Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recruitment/benefits-and-wellbeing

Angen cymorth gyda'ch cais?

Cliciwch ein tudalen canllaw.



Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo'u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu'n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi'u cynrychioli'n ddigonol o fewn ein sefydliad.


Os hoffech ymgymryd a'r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i'n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a'r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.


Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio a'r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd a gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno'ch cais yn gynnar.


Llawn Amser Cyfatebol Cyflog: 25,371 - 49,934 y flwyddyn yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad.

Beware of fraud agents! do not pay money to get a job

MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.


Related Jobs

Job Detail

  • Job Id
    JD3329271
  • Industry
    Not mentioned
  • Total Positions
    1
  • Job Type:
    Full Time
  • Salary:
    Not mentioned
  • Employment Status
    Permanent
  • Job Location
    Swansea, WLS, GB, United Kingdom
  • Education
    Not mentioned