Derbynnydd Gyda'r Nos (cymraeg Hanfodol)

Swansea, WLS, GB, United Kingdom

Job Description

Amdanom ni:




Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o 50 miliwn, sy'n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.


Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref

Y rol:



Byddwch yn bennaf yn gweithio yn y dderbynfa, a bydd gofyn ichi weithredu fel pwynt cyswllt cyntaf i gwsmeriaid mewnol ac allanol a myfyrwyr. Yn ogystal, byddwch yn cynnig cyngor ac arweiniad ar bob agwedd ar gymorth dysgu, a bydd gofyn i chi wneud hyn wyneb yn wyneb a thros y ffon, gan ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol a hyrwyddo Coleg Gwyr Abertawe.



Rhan-Amser (17 awr yr wythnos) Amser tymor (36 wythnos y flwyddyn) Tymor Penodol tan 31 Awst 2026 Nosweithiau Llun - Iau (16:15 - 20:30) 9,063 - 9,256 y flwyddyn Campws Tycoch

Cyfrifoldebau Allweddol:



Cyflawni dyletswyddau derbynfa ddyddiol ar y campws dynodedig, gan gynnwys ateb galwadau ffon ac ymateb i e-byst a chyfathrebiadau ysgrifenedig eraill - yn ddwyieithog lle bo angen. Cyfarch pob ymwelydd mewnol ac allanol mewn modd proffesiynol, rheoli'r log ymwelwyr, a'u cyfeirio'n briodol gan ddilyn y Polisi Ymwelwyr. Gwasanaethu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pob ymholiad ar y campws, gan ymdrin a galwadau sy'n dod i mewn, e-byst (gan gynnwys y blwch derbyn ymholiadau), a negeseuon yn effeithiol.

Amdanoch chi:



Sgiliau'r Iaith Gymraeg - Lefel 3 (disgrifwyr lefel Iaith ynghlwm) Cymhwyster TGAU mewn Mathemateg a Saesneg (Gradd A-C). Profiad o ddefnyddio systemau Microsoft Office a MIS Sgiliau trefnu gwych a'r gallu i flaenoriaethu llwyth gwaith.

Buddion:



28 diwrnod pro rata o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae'r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2024) 2 ddiwrnod lles i staff Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau'r Coleg Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recriwtio/buddion-a-lles

Angen cymorth gyda'ch cais?

Cliciwch ein tudalen canllaw.



Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo'u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu'n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi'u cynrychioli'n ddigonol o fewn ein sefydliad.


Os hoffech ymgymryd a'r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i'n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a'r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.


Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio a'r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd a gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno'ch cais yn gynnar.

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).

Cyflog Amser Llawn Cyfatebol: 24,691 - 25,217 y flwyddyn.

Beware of fraud agents! do not pay money to get a job

MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.


Job Detail

  • Job Id
    JD3367750
  • Industry
    Not mentioned
  • Total Positions
    1
  • Job Type:
    Full Time
  • Salary:
    Not mentioned
  • Employment Status
    Permanent
  • Job Location
    Swansea, WLS, GB, United Kingdom
  • Education
    Not mentioned