Gweithiwr Cefnogaeth Symudol Cam Drin Domestig Arfon Domestic Abuse Floating Support Worker

WLS, GB, United Kingdom

Job Description

Chwilio am swydd ym maes cefnogi?


Ydach chi eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl a chymunedau - dewch i weithio i Gorwel!


Mae Gorwel yn uned fusnes o fewn Gr?p Cynefin sydd wedi bod yn darparu tai o ansawdd, syn ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014. Rydym yn gweithion galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybur iaith Gymraeg gyda balchder. Rydyn ni am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau ir eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd syn sicrhau dyfodol cynaliadwy.


Mae Gorwel yn darparu gwasanaethau o safon i:



gefnogi pobl syn dioddef trais yn y cartref gefnogi pobl rhag colli ei cartref ac atal digartrefedd

Rydym yn gweithio gydag unigolion a theuluoedd, rhai ohonynt yn denantiaid Gr?p Cynefin, o fewn pedair sir gogledd Cymru: Ynys Mon, Gwynedd, Sir Conwy a Sir Ddinbych.


Mae ein prosiectaun cynnwys llochesi, cynlluniau tai a chefnogaeth, gwasanaethau plant a phobl ifanc, cefnogaeth yn y gymuned a gwasanaeth ymgynghorwyr annibynnol trais yn y cartref. Ar gyfartaledd rydym yn cefnogi hyd at 650 o bobl yr wythnos ac mae gennym dros 70 o staff cyflogedig proffesiynol.



Mae gennym staff profiadol a phroffesiynol yn gweithio o swyddfeydd ym Mhenygroes, Caernarfon, Llangefni, Pwllheli, Dinbych a Dolgellau.

Gwasanaethau Trais yn y Cartref Gwynedd ac Ynys Mon



Llochesi a chefnogaeth mewn argyfwng





Mae Gorwel yn darparu Gwasanaeth Trais yn y Cartref yng Ngwynedd ac Ynys Mon gan gynnwys pedair lloches mewn pedwar lleoliad cyfrinachol sydd yn llety argyfwng 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos i ferched au plant sydd yn dianc oddi wrth trais yn y cartref.

Cynllun Cefnogaeth Symudol





Maer Cynllun Cefnogaeth Symudol yn cefnogi merched, dynion au teuluoedd yng Ngwynedd ac Ynys Mon.


Os oes gennych yr ysfa ar angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon ywr swydd i chi.

Y Swydd



Math o gytundeb:

Parhaol

Cyflog:

24,493 - 26,762 y flwyddyn + Lwfansaralwad20ydiwrnod/48arbenwythnosa g?yl y banc.

Gwyliau:

36 diwrnod y flwyddyn yn cynnwys gwyliau banc statudol

Teithio:

Trwydded Yrru Gyfredol Lawn

Pensiwn

: Mae Gr?p Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)

Disgrifiad swydd:

DS Gweithiwr Cefnogaeth Symudol Cam Drin Domestig Arfon 08.25.pdf



:

JD Domestic Abuse Floating Support Arfon 08.25.pdf



Buddiannau

Pecyn Buddion.pdf Benefits Package.pdf

Sut i Ymgeisio am y swydd:

Canllawiau cwblhau cais.pdf

Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Manwl gyda rhestrau gwahardd ar gyfer y swydd hon.

Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.



Gwybodaeth Ychwanegol




Ni allwn ystyried ceisiadau os ydych wedi dioddef o gam drin domestig a wedi derbyn gwasanaeth Gorwel am 2 flynedd ar ol ir berthynas ddod i ben.


Mae hyn i ddiogelu a gwarchod yr unigolyn a rhoi digon o amser iddynt ddod i dermau hefo y gamdriniaeth a chael symud ymlaen yn ei bywydau. Maer gwaith yn gallu bod yn anodd ac yn gallu effeithio ar llesiant pobl os yn ymgymryd a gwaith cefnogi yn rhy fuan.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch yngl?n ar swydd a'r lleoliad

yna mae croeso i chi gysyllt

u a Elizabeth Ephraim, Rheolwr Gwasanaethau Cam-drin Domestig ar 0300 111 2121 neu 07789403122

Beware of fraud agents! do not pay money to get a job

MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.


Job Detail

  • Job Id
    JD3551025
  • Industry
    Not mentioned
  • Total Positions
    1
  • Job Type:
    Full Time
  • Salary:
    Not mentioned
  • Employment Status
    Permanent
  • Job Location
    WLS, GB, United Kingdom
  • Education
    Not mentioned