Mae'r swydd hon wedi ei heithrio o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 - Merched yn unig fydd yn cael eu hystyried
Chwilio am swydd ym maes cefnogi?
Mae Gorwel yn uned fusnes o fewn Gr?p Cynefin sydd wedi bod yn darparu tai o ansawdd, syn ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014. Rydym yn gweithion galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybur iaith Gymraeg gyda balchder. Rydyn ni am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau ir eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd syn sicrhau dyfodol cynaliadwy.
Mae Gorwel yn darparu gwasanaethau o safon i:
gefnogi pobl syn dioddef trais yn y cartref
gefnogi pobl rhag colli ei cartref ac atal digartrefedd
Rydym yn gweithio gydag unigolion a theuluoedd, rhai ohonynt yn denantiaid Gr?p Cynefin, o fewn pedair sir gogledd Cymru: Ynys Mon, Gwynedd, Sir Conwy a Sir Ddinbych.
Mae ein prosiectaun cynnwys llochesi, cynlluniau tai a chefnogaeth, gwasanaethau plant a phobl ifanc, cefnogaeth yn y gymuned a gwasanaeth ymgynghorwyr annibynnol trais yn y cartref. Ar gyfartaledd rydym yn cefnogi hyd at 650 o bobl yr wythnos ac mae gennym dros 70 o staff cyflogedig proffesiynol.
Mae gennym staff profiadol a phroffesiynol yn gweithio o swyddfeydd ym Mhenygroes, Caernarfon, Llangefni, Pwllheli, Dinbych a Dolgellau.
Gwasanaethau Trais yn y Cartref Gwynedd ac Ynys Mon
Llochesi a chefnogaeth mewn argyfwng
Mae Gorwel yn darparu Gwasanaeth Trais yn y Cartref yng Ngwynedd ac Ynys Mon gan gynnwys pedair lloches mewn pedwar lleoliad cyfrinachol sydd yn llety argyfwng 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos i ferched au plant sydd yn dianc oddi wrth trais yn y cartref.
Cynllun CefnogaethSymudol
Maer Cynllun Cefnogaeth Symudol yn cefnogimerched, dynion au teuluoedd yng Ngwynedd ac Ynys Mon.
Os oes gennych yr ysfa ar angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon ywr swydd i chi.
Y Swydd
Math o gytundeb:
Parhaol
Cyflog:
24,493 - 26, 762 y flwyddyn + Lwfans aralwad 20 y diwrnod / 48 ar benwythnos a g?yl y banc.
Gwyliau:
36 diwrnod y flwyddyn yn cynnwys gwyliau banc statudol
Teithio:
Trwydded Yrru Gyfredol Lawn
Pensiwn
: Mae Gr?p Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)
Disgrifiad swydd:
DS Gweithwraig Cefnogi Lloches Arfon 06.2025.pdf
:
JD Domestic Abuse Refuge Support Worker 06.25.pdf
Buddiannau
Pecyn Buddion.pdf Benefits Package.pdf
Sut i Ymgeisio am y swydd:
Canllawiau cwblhau cais.pdf
Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Manwl gyda rhestrau gwahardd ar gyfer y swydd hon.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Gwybodaeth Ychwanegol
Ni allwn ystyried ceisiadau os ydych wedi dioddef o gam drin domestig a wedi derbyn gwasanaeth Gorwel am 2 flynedd ar ol ir berthynas ddod i ben.
Mae hyn i ddiogelu a gwarchod yr unigolyn a rhoi digon o amser iddynt ddod i dermau hefo y gamdriniaeth a chael symud ymlaen yn ei bywydau. Maer gwaith yn gallu bod yn anodd ac yn gallu effeithio ar llesiant pobl os yn ymgymryd a gwaith cefnogi yn rhy fuan.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch yngl?n ar swydd a'r lleoliad
yna mae croeso i chi gysyllt
u a Elizabeth Ephraim, Rheolwr Gwasanaethau Cam-drin Domestig ar 0300 111 2121 neu 07789403122
Beware of fraud agents! do not pay money to get a job
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.