Gweithiwr Cymdeithasol

Llangefni, WLS, GB, United Kingdom

Job Description

Gweithio i Gyngor Sir Ynys Mon



Mae Ynys Mon yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae'n ymwneud a gwella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol a ninnau, sy'n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd a meddylfryd byd busnes, sy'n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu'r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Mon sy'n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.



Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni'n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tim. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o'r buddion y gallwn eu cynnig i'n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Mon

Pwrpas cyffredinol y swydd



Adrodd i Reolwr y Tim, a chyfrannu tuag at ddatblygu a darparu gwasanaeth gofal cymdeithasol cynhwysfawr o fewn y tim dynodedig yn y Gwasanaethau Plant:-


Ymgymryd a'r holl ddyletswyddau statudol yng nghyswllt plant mewn angen, diogelu plant a phlant y gofelir amdanynt Dangos dealltwriaeth o weithio gyda phlant a'u teuluoedd. Rheoli baich gwaith o wahanol lefelau o gymhlethdod, a hynny'n ymwneud ag asesu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso camau gweithredu priodol, cyfrannu at ddefnydd effeithiol o adnoddau er mwyn diogelu a hyrwyddo lles plant a'u teuluoedd. Cydymffurfio gyda'r holl ddeddfwriaeth berthnasol, cyfarwyddyd, safonau cenedlaethol a pholisiau Adrannol.


Gan ddibynnu ar brofiad a gallu'r ymgeisydd llwyddiannus i wneud gwaith cymdeithasol ymarferol ar ei lefel fwyaf cymhleth, yn cynnwys asesu a rheolaeth briodol o risgiau, rydym yn edrych i benodi unigolion all:
Arolygu gwaith achos aelodau eraill y tim yn eu blwyddyn gyntaf o ymarfer Hyfforddi a mentora cydweithwyr yn y maes gwasanaeth neu rai sy'n gweithio gyda'r gwasanaeth gan sicrhau datblygiad proffesiynol a gwelliant parhaus yn y gwaith. Gweithredu fel adnodd i staff a rheolwyr i ddarparu cyngor proffesiynol ar achosion unigol. Bod a chysylltiad gydag ymchwilio a hyrwyddo ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Gynnig ystod o ymyraethau gyda'r ffocws ar gael atebion gydag unigolion a theuluoedd o fewn model adfer, ail-alluogi a mynd i'r afael a materion yn ymwneud ag ansawdd bywyd

Mwy o wybodaeth

Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.





Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.



Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.



Penodiad yn ddibynnol ar Gwiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol.


Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r fanyleb person i'ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.



Manylion cyswllt

Enw:

Carly Thomson


Rhif ffon:

07827281746


Cyfeiriad e-bost:

carlythomson@ynysmon.llyw.cymru



Job Reference: CORP100464

Beware of fraud agents! do not pay money to get a job

MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.


Job Detail

  • Job Id
    JD3531898
  • Industry
    Not mentioned
  • Total Positions
    1
  • Job Type:
    Full Time
  • Salary:
    Not mentioned
  • Employment Status
    Permanent
  • Job Location
    Llangefni, WLS, GB, United Kingdom
  • Education
    Not mentioned