Gweithiwr Cymdeithasol (niwrowahaniaeth)

Barry, WLS, GB, United Kingdom

Job Description

Amdanom ni





Mae'r gwasanaeth Niwrowahaniaeth yn wasanaeth newydd sy'n datblygu ac yn rhan o'r naethau Cymdeithasol Oedolion. Byddwn yn gweithio gydag oedolion sydd wedi


cael diagnosis o niwrowahaniaeth gan gynnwys Awtistiaeth, Anhwylder Diffyg


Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADCG) a Syndrom Tourette sydd ag anghenion gofal a chymorth.


Mae'r tim yn ddatblygiad newydd yn y Gwasanaethau Oedolion ac mae'r rol hon yn


cynnig cyfle i lunio ein darpariaeth gwasanaeth yn y dyfodol. Byddwn ni'n cynnal


asesiadau gydag oedolion sydd a diagnosis o niwrowahaniaeth a allai fod ag anghenion


gofal a chymorth ac yn trefnu pecynnau gofal a chymorth sy'n briodol i ddiwallu'r


canlyniadau a ddymunir gan yr unigolion. Bydd y Tim hefyd yn cynnal asesiadau pontio


ar gyfer y bobl ifanc hynny sydd a diagnosis o niwrowahaniaeth ag anghenion gofal a


chymorth sy'n pontio i'r Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion. Bydd y tim yn rhan


bwysig o sicrhau bod y Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion yn cyflawni eu


cyfrifoldebau statudol dan y Cod Ymarfer ar ddarparu gwasanaethau awtistiaeth (2021).


Bydd y gwasanaeth sy'n cael ei sefydlu yn cynnwys gweithiwr cymdeithasol a gweithiwr


cymorth.


Bydd elfen ataliol gref i'r swydd gweithiwr cymorth a disgwylir i ddeiliad y swydd gynnig


amrywiaeth o wybodaeth, cyngor a chymorth. Bydd y gwasanaeth yn rhan o'r


Gwasanaeth Gofal Tymor Hirach. Mae'r Tim yn cael ei reoli gan y Rheolwr Tim sydd a


chyfrifoldeb am y Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion yn y Gwasanaeth Gofal Tymor


Hirach. Bydd cymorth pellach i'r gwasanaeth a mynediad at adnoddau arbenigol yn cael


eu cynnig gan y swyddog arweiniol awtistiaeth.


Mae'r tim hefyd wedi ymrwymo i ymarfer gwaith cymdeithasol sy'n seiliedig ar gryfderau,


a chewch gyfle i ddatblygu'r sgiliau hyn. Mae'r Tim wedi ymrwymo i feithrin diwylliant lle


mae gweithwyr yn cael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi a'u hannog i gyflawni eu llawn


botensial.







Yngl?n a'r rol

Manylion Tal:

Gradd 8 pcg 26-30 - 36,124-39,513 / Gradd 9 pcg 31-35 40,476-44,711

Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith:

Dydd Llun i Ddydd Gwener


Prif Weithle:

Lleoliadau amrywiol ar draws y Gwasanaethau Oedolion, Bro Morgannwg



Gwerthfawrogir ein Gweithwyr Cymdeithasol oherwydd y sgiliau a'r wybodaeth y maen nhw'n cyfrannu at y gwasanaeth. Maen nhw'n allweddol i'r arfer parhaus o ddulliau gwaith cymdeithasol sy'n seiliedig ar gryfderau ym Mro Morgannwg.


Bydd y rol yn rhan o'r Gwasanaeth Gofal Tymor Hirach. Fel Gweithiwr Cymdeithasol,


byddwch yn cynnal asesiadau, yn llunio cynlluniau gofal a chymorth gydag unigolion yn nodi eu canlyniadau ac yn comisiynu gofal a chymorth. Bydd gofyn i chi hefyd reoli llwyth achosion prysur.



Fel Gweithiwr Cymdeithasol byddwch yn derbyn goruchwyliaeth reolaidd a phan fyddwch yn meddu ar gymwysterau priodol bydd disgwyl i chi oruchwylio cydweithwyr tim heb gymwysterau. Mae disgwyl i Weithwyr Cymdeithasol Gradd 8 oruchwylio cydweithwyr Gradd 7 a staff anghymwys yn ol y galw. Byddwch yn cefnogi gweithrediad parhaus arferion sy'n seiliedig ar gryfderau ac yn cyfrannu at Sicrwydd Ansawdd yn y Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion.



Mae'r gwasanaeth Niwrowahaniaeth yn wasanaeth newydd sy'n datblygu a bydd disgwyl iddo roi cyngor a chymorth i unigolion, eu teuluoedd a gweithwyr proffesiynol eraill. Bydd disgwyl i chi ddatblygu eich gwybodaeth am y materion sy'n effeithio ar y rhai sy'n niwrowahanol. Byddwch hefyd yn cael eich cefnogi i ddefnyddio arfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth gydag unigolion

Amdanat ti




Bydd angen y canlynol arnoch:




1. Profiad o weithio gydag oedolion neu bobl ifanc a chynnal asesiadau gyda'r unigolion


hynny sydd angen gwasanaethau cymorth.


2. Ymrwymiad i arfer rhagorol gydag unigolion, teuluoedd, Gofalwyr a Chymunedau.


3. Sgiliau asesu a dealltwriaeth glir o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant


(Cymru) 2014.

4. Hyder a gwybodaeth o ran gweithredu o fewn fframwaith cyfreithiol y Ddeddf


Galluedd Meddyliol. Ar gyfer y swydd Gradd 8 mae profiad o waith a phrosesau'r Llys


Gwarchod yn fantais.


5. Disgwylir i bawb sy'n gweithio yn y gwasanaeth ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles


dinasyddion.

6. Ymrwymiad i weithio'n agos gyda chydweithwyr mewn tim gwaith cymdeithasol


arbenigol ac i weithio'n amlbroffesiynol gyda chydweithwyr mewn gwasanaethau


statudol a gwasanaethau'r trydydd sector.

Gwybodaeth Ychwanegol




Oes angen gwiriad GDG:

Manwl



I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch a:

Andrew Cole


Gweler y disgrifiad swydd/manyleb person atodedig am ragor o wybodaeth





Job Reference: SS00828

Beware of fraud agents! do not pay money to get a job

MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.


Job Detail

  • Job Id
    JD3202936
  • Industry
    Not mentioned
  • Total Positions
    1
  • Job Type:
    Full Time
  • Salary:
    Not mentioned
  • Employment Status
    Permanent
  • Job Location
    Barry, WLS, GB, United Kingdom
  • Education
    Not mentioned