Mae Ynys Mon yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae'n ymwneud a gwella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol a ninnau, sy'n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd a meddylfryd byd busnes, sy'n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu'r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Mon sy'n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni'n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tim. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o'r buddion y gallwn eu cynnig i'n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Mon
Pwrpas cyffredinol y swydd
Cefnogi cleientiaid sy'n wynebu heriau iechyd meddwl: Nodi anghenion cymorth tai a amlinellir yn fframwaith canlyniadau'r Grant Cymorth Tai (GCT)
Gweithio fel rhan annatod o dim cyllido Grant Cymorth Tai (GCT) y Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Cymunedol, a darparu cymorth sy'n gysylltiedig a thai lefel isel, canolig neu uchel i unigolion sydd ag anghenion cymorth iechyd meddwl (yn unol ag anghenion canlyniadau GCT a nodwyd) ac sy'n byw mewn llety dros dro neu sy'n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref ac sydd yn cael eu hasesu fel rhywrai sydd angen cymorth i gael a/neu gynnal llety diogel. I fyw yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain a rheoli eu bywyd bod dydd a'u llety'n effeithiol.
Cynorthwyo i sicrhau llety sefydlog, ond hefyd cynorthwyo i gadw a chynnal trefniadau cyfredol a chefnogi unigolion mewn perygl i sicrhau nad ydynt yn peryglu eu statws o ran llety.
Bydd y Swyddog Cymorth yn ystyried yr anghenion a nodwyd ar y ffurflen gyfeirio wreiddiol gan wasanaeth Un Pwynt Mynediad y GCT er mwyn trafod, cytuno, pennu a chynllunio canlyniadau gyda phob unigolyn yn seiliedig ar eu hanghenion cymorth.
Bydd y Swyddog Cymorth yn canolbwyntio ar weithio i gyflawni canlyniadau llwyddiannus ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth sy'n ymwneud a'r Gwasanaeth yn unol a gofynion y rhaglen Grant Cymorth Tai a chan ddilyn canllawiau'r GCT o ran gweithdrefnau Ymateb yn Gyflym i Anghenion Tai yn ogystal a gofynion eraill a osodir ar y Gwasanaeth Cefnogi Iechyd Meddwl Cymunedol gan y GCT.
Mwy o wybodaeth
Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.
Penodiad yn ddibynnol ar Gwiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r fanyleb person i'ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.
Manylion cyswllt
Enw:
Simon Glyn
Rhif ffon:
07929348432
Cyfeiriad e-bost:
simonglyn@ynysmon.llyw.cymru
Job Reference: CORP100451
Beware of fraud agents! do not pay money to get a job
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.