Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o 50 miliwn, sy'n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.
Y rol:
Mae'r Coleg yn chwilio am unigolyn cymwys, ymrwymedig ac ymroddgar i addysgu ar amrywiaeth o gyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol o fewn yr Ardal Ddysgu Iechyd a Gofal.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwaraewr tim proffesiynol gyda'r gallu i adnabod a datblygu potensial dysgwyr ac yn deall yr heriau sy'n gysylltiedig ag addysgu yn y sector Addysg Bellach.
Rhan-amser 0.5, Gorseinon (18.5 awr yr wythnos)
Rhan-amser 0.5, Ty Coch (18.5 awr yr wythnos)
Darlithydd Cyflog fesul Awr - Iechyd a Gofal
17.53 - 34.51 yr awr
Trwy'r Campysau
Cyfrifoldebau Allweddol:
Cynnal a monitro data sy'n ymwneud a chadw, cwblhau a chyflawniad dysgwyr ar gyrsiau perthnasol, yn unol a thargedau'r Coleg a meincnodau cenedlaethol.
Cefnogi, cynghori ac arwain myfyrwyr, gan wneud atgyfeiriadau priodol lle bo angen er mwyn diwallu anghenion bugeiliol yn llawn.
Cyfrannu'n weithredol at y broses adolygu cwrs / datblygu a gweithredu camau tuag at welliant parhaus.
Darparu cymorth ychwanegol i ddysgwyr drwy sesiynau adolygu neu gymorth astudio lle bo angen.
Amdanoch chi:
Byddwch yn chwaraewr tim proffesiynol gyda'r gallu i adnabod a datblygu potensial dysgwyr ac yn deall yr heriau sy'n gysylltiedig ag addysgu yn y sector AB.
Byddwch yn datblygu ac yn defnyddio amrywiaeth o strategaethau addysgu a dysgu, gan gynnwys defnyddio TGCh yn effeithiol, i sicrhau rhagoriaeth a chyrhaeddiad targedau cwrs ar gyfer cadw a chyflawni.
Fel cyfathrebwr eglur a hyderus, bydd gennych y gallu i ysbrydoli ac ysgogi myfyrwyr ac i greu amgylchedd dysgu cadarnhaol sy'n arwain at brofiad dysgu eithriadol. Bydd disgwyl hefyd i chi ymgymryd a rol tiwtor personol ar gyfer un neu fwy o grwpiau dysgwyr.
Bydd gennych radd berthnasol a phrofiad cryf o weithio mewn rol berthnasol ac yn gymwys i addysgu lefelau 1-5. Bydd gennych, neu'n barod i weithio tuag at, gymhwyster addysgu cydnabyddedig a'r gallu i addasu eich arddull addysgu i ddiwallu anghenion grwpiau oedran amrywiol.
Buddion:
28 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae'r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2024)
Cynllun Pensiwn Athrawon a chyfraniad cyflogwr o 28.68% ar gyfartaledd (2024)
2 ddiwrnod lles i staff
Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau'r Coleg
Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recriwtio/buddion-a-lles
Angen cymorth gyda'ch cais?
Cliciwch ein tudalen canllaw.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo'u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu'n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi'u cynrychioli'n ddigonol o fewn ein sefydliad.
Os hoffech ymgymryd a'r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i'n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a'r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio a'r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd a gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
Beware of fraud agents! do not pay money to get a job
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.