Salary: up to 80,072 plus generous pension and relocation
Location: Flexible location (hybrid working from NRW's offices in north, south, and mid Wales)
Natural Resources Wales (NRW) is ambitious and the first of its kind worldwide. Established in 2013 from the coming together of Wales Environment Agency, Countryside Council for Wales and Forestry Commission, NRW's purpose is the sustainable management of Wales natural resources, focusing on tackling climate, nature and pollution emergencies - some of the biggest challenges facing society.
As Welsh Government's largest sponsored body, with a unique legislative remit that breaks new ground, NRW's aim is for natural resources and ecosystems to flourish along with society and the economy. The pan-Wales organisation of 2400 people, with a budget of 300m wants to leave the natural environment in a better state than it found it in and help improve the well-being and prosperity of the people of Wales.
The organisation now seeks a new Head of People. This is a strategic leadership position that will shape how NRW attract and retain talent, foster a culture of inclusion and wellbeing, and ensure their people have the tools and support they need to thrive. It is a role that will help NRW lead with purpose and deliver lasting change.
Reporting to the Executive Director of People, Facilities and Fleet, the Head of People will oversee a broad and impactful portfolio. This will include talent acquisition and resourcing, organisational design and development, people development, HR business partnering, employee relations, payroll and reward, wellbeing, health and safety, Welsh language policy, and equality, diversity and inclusion.
They will support the delivery of NRW's complex, challenging and far reaching strategy, working with diverse stakeholders, optimising economic prosperity and sustainably managing Wales natural resources, including woodlands and nature reserves, flood and coastal risk management, environmental regulation, Category 1 incident management, and environmental and planning monitoring and advice. They will be a champion for NRW's work and be proud to serve the people of Wales by being connected, bold, caring and resourceful.
The closing date for applications is 5/12/2025.
For further information, please click on this link: www.odgers.com/94981 or call the Odgers Wales team for a confidential conversation in English or Welsh on 02920 783 050 or via OdgersWalesPractice@odgers.com
Pennaeth Pobl
Cyfoeth Naturiol Cymru
Cyflog: hyd at 80,072 ynghyd a phensiwn hael a phecyn adleoli
Lleoliad hyblyg (gweithio hybrid o swyddfeydd Cyfoeth Naturiol Cymru yng ngogledd, de a chanolbarth Cymru)
Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw'r corff cyntaf o'i fath yn y byd - ac mae'n gorff uchelgeisiol. Cafodd ei sefydlu yn 2013 drwy uno Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a'r Comisiwn Coedwigaeth. Amcan CNC yw rheoli adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy - gan ganolbwyntio ar fynd i'r afael a'r argyfyngau hinsawdd, natur a llygredd, sef rhai o'r heriau mwyaf sy'n wynebu ein cymdeithas.
Fel y corff mwyaf a noddir gan Lywodraeth Cymru, gyda chylch gwaith deddfwriaethol unigryw sy'n torri tir newydd, nod Cyfoeth Naturiol Cymru yw sicrhau bod adnoddau naturiol ac ecosystemau yn ffynnu ar y cyd a chymdeithas a'r economi. Mae CNC yn sefydliad ar gyfer Cymru gyfan, gyda 2400 o bobl a chyllideb o 300 miliwn. Ei nod yw gwella cyflwr yr amgylchedd naturiol a helpu i wella lles a llewyrch pobl Cymru.
Mae'r sefydliad bellach yn chwilio am Bennaeth Pobl newydd. Mae hon yn swydd arweinyddiaeth strategol a fydd yn llywio sut mae CNC yn denu ac yn cadw talent, yn meithrin diwylliant o gynhwysiant a lles, ac yn sicrhau bod gan eu pobl yr offer a'r gefnogaeth sydd angen arnynt i ffynnu. Mae'n rol a fydd yn helpu CNC i arwain gyda phwrpas a chyflawni newid parhaol.
Gan adrodd i'r Cyfarwyddwr Gweithredol, Pobl, Cyfleusterau a Fflyd, bydd y Pennaeth Pobl yn goruchwylio portffolio eang ac effeithiol. Bydd hyn yn cynnwys caffael talent ac adnoddau, dylunio a datblygu sefydliadol, datblygu pobl, partneriaethau busnes AD, cysylltiadau a'r gweithwyr, cyflogres a gwobrwyo, lles, iechyd a diogelwch, polisi'r iaith Gymraeg, a chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Bydd deiliad y swydd yn cefnogi'r gwaith o gyflawni strategaeth gymhleth, heriol a phellgyrhaeddol CNC, gan weithio gyda rhanddeiliaid amrywiol, gwneud y gorau o ffyniant economaidd a rheoli adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy - gan gynnwys coedwigoedd a choetiroedd, gwarchodfeydd natur, rheoli perygl llifogydd, rheoli materion arfordirol, rheoleiddio amgylcheddol, rheoli digwyddiadau Categori 1, a gwaith monitro a chynghori ar faterion amgylcheddol a chynllunio. Bydd y sawl a benodir hefyd yn eiriolwr cryf dros waith CNC ac yn falch o wasanaethu pobl Cymru drwy feithrin cysylltiadau, a bod yn feiddgar, yn ofalgar ac yn ddyfeisgar.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5/12/2025
.Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen hon: www.odgers.com/94981 neu ffoniwch dim Odgers Cymru am sgwrs gyfrinachol yn Gymraeg neu Saesneg ar 02920 783 050 neu drwy OdgersWalesPractice@odgers.com
Job Type: Full-time
Pay: Up to 80,072.00 per year
Work Location: Hybrid remote in Llanrwst LL26 0PN
Beware of fraud agents! do not pay money to get a job
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.