Nursery Assistant (bank Staff) / Cynorthwyydd Achlysurol Meithrinfa Medra / Medra Gofal Y Graig

Llangefni, WLS, GB, United Kingdom

Job Description

Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau plant bach Cymru?

Dewch i ymuno a theulu Mudiad Meithrin - rydyn ni'n angerddol am roi'r dechrau gorau i blant.

Mae Meithrinfa Medra, Llangefni yn darparu gofal ac addysg blynyddoedd cynnar o ansawdd i blant o chwe wythnos oed hyd at oed ysgol mewn awyrgylch deniadol, cyfeillgar a Chymreig. Mae'r feithrinfa wedi ei gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru ac yn cael ei reoli gan is gwmni Mudiad Meithrin, sef Meithrinfeydd Cymru Cyf.

Dyletswyddau'r Swydd: Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy'r Rheolwr am gyflawni'r dyletswyddau canlynol:

Dilyn arweiniad yr Arweinydd Ystafell i:



Sicrhau bod pob plentyn yn derbyn sylw gofalgar a phrydlon a gofal o'r safon uchaf Sicrhau bod trefniadau bwydo a newid plant yn cael eu gweithredu yn briodol Sicrhau bod sylw manwl yn cael ei roi at hylendid y plant a glendid y gweithle ar bob adeg Sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfle i orffwys neu gysgu yn ol ei anghenion Meithrin datblygiad, hyder ac annibyniaeth pob plentyn gan gwrdd a'u hanghenion cymdeithasol ac emosiynol Sicrhau bod adnoddau o fewn cyrraedd hwylus, ac yn addas i oedran y plant Sicrhau fod amseroedd bwyd yn cynnig profiadau cymdeithasol a phleserus i'r plant Sicrhau y darperir gweithgareddau chwarae yn yr awyr agored fydd yn hybu datblygiad corfforol a chymdeithasol ac yn meithrin ymwybyddiaeth y plant o'u hamgylchedd Croesawu rhieni i'r Feithrinfa Cydweithio yn effeithiol ac effeithlon ac fel rhan o'r tim Cydweithio i weithredu'r Cwricwlwm Newydd Sicrhau mai Cymraeg yw cyfrwng pob gweithgaredd a gyflwynir i'r plant o fewn y feithrinfa a gweithredu'r Dull Trochi Disgwylir i bob aelod o staff gyfathrebu'n Gymraeg gyda'u cyd-weithwyr Cydymffurfio a rheoliadau iechyd a diogelwch Dilyn a gweithredu holl weithdrefnau a pholisiau'r Feithrinfa Sicrhau bod yr ystafell a'r cyfleusterau yn ddiogel, yn lan, yn ddeniadol ac yn groesawgar Parchu a gweithredu polisi Cyfrinachedd y Feithrinfa Ymddwyn yn broffesiynol ar bob adeg Mynychu hyfforddiant perthnasol fel bo angen. Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau ychwanegol sy'n berthnasol i'r swydd yn ol cyfarwyddyd Rheolwr y feithrinfa

Am fwy o wybodaeth dilynwch y ddolen yma https://meithrin.cymru/jobs/cynorthwyydd-achlysurol-staff-banc-meithrinfa-medra-medra-gofal-y-graig/



Job Type: Zero hours contract

Pay: 12.21 per hour

Benefits:

Free parking On-site parking Sick pay
Ability to commute/relocate:

Llangefni, LL77 7LP: reliably commute or plan to relocate before starting work (required)
Language:

Cymraeg / Welsh (required)
Work Location: In person

Application deadline: 13/08/2025
Expected start date: 01/09/2025

Beware of fraud agents! do not pay money to get a job

MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.


Job Detail

  • Job Id
    JD3480690
  • Industry
    Not mentioned
  • Total Positions
    1
  • Job Type:
    Full Time
  • Salary:
    Not mentioned
  • Employment Status
    Permanent
  • Job Location
    Llangefni, WLS, GB, United Kingdom
  • Education
    Not mentioned