Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.
Gyda gweledigaeth newydd a fydd yn dod ag egni newydd i'n gwaith, mae hwn yn gyfnod hynod gyffrous i Gr?p Cynefin. Mae penodi i'r rol Pennaeth Cyllid, i weithio fel rhan or Uwch Dim Rheoli, yn ganolog i ddiwylliant a gweledigaeth y gr?p ir dyfodol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain y ffordd mewn rol amrywiol a chyffrous. Byddant yn:
cefnogi trawsnewid sefydliadol ar draws y gr?p
cefnogi twf a datblygiad staff
gwella profiad y cwsmer trwy ddatblygu eu gallu i ddylanwadu ar bob lefel
darparu gwasanaeth cwsmer rhagorol
cryfhau ein proffil cadarnhaol ar lefel ranbarthol a chenedlaethol
Mae wedi bod yn gyfnod o ystyried, adolygu, gweld lle gallwn wella a gweithredu arno. Rydyn ni yn awr mewn lle hynod o gadarnhaol ac mae'r dyfodol yn un cyffrous.
Rydym yn chwilio am unigolyn i gefnogi byrddaur gr?p ar is-gwmniau ym mhob agwedd o'r swydd.
Bydd deilydd y swydd yn sicrhau bod Gr?p Cynefin yn parhau i weithredu mewn modd sy'n cydymffurfio drwy osod, monitro ac ymgorffori'r holl reoliadau, polisiau a gweithdrefnau ariannol.
Bydd deilydd y swydd yn atebol am Reolaeth Trysorlys y gr?p, ac yn sicrhau ymlyniad wrth unrhyw ofynion rheoleiddiol, benthycwr a chyfansoddiadol.
Bydd deilydd y swydd yn sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth o safon uchel i'n holl staff a defnyddwyr gwasanaeth a bod yr holl wasanaethau o dan eich arweinyddiaeth yn parhau'n gyfoes a bod llais ein tenant yn cael ei ddefnyddio ar bob lefel o'r sefydliad i wella gwasanaethau.
Bydd deilydd y swydd yn darparu adroddiadau amserol i'r Prif Dim Arweinyddiaeth, Pwyllgorau a Bwrdd Gr?p Cynefin yn ol yr angen.
Os oes gennych y rhinweddau ar angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i'n dyfodol, hon ywr swydd i chi.
Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysyllwch a Crofton Davey, Cydlynydd Adnoddau Dynol ar 0300 111 2122.
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.