Rhaid i ymgeiswyr gwblhau'r ffurflen gais ar wefan Cyngor Gwynedd, neu'r ffurflenni cais y gofynnir amdanynt gan y Gwasanaeth Cefnogol. Ni fydd unrhyw geisiadau neu CVs a gyflwynir trwy Indeed yn cael eu hasesu.
........
Full details and application form available here: -
Applicants must complete the application form on the Cyngor Gwynedd website, or Application forms requested from the Support Services. Any applications or CVs submitted through Indeed will not be assessed.
.............
AMDANOM NI
Rydym yn sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei ddiogelu wrth ymgymryd a'r holl waith, ac wedi teilwra ein gwasanaethau i gwrdd ag anghenion ein cwsmeriaid.
Rydym wedi ein lleoli yng Ngwynedd, yng ngogledd Cymru dros dri lleoliad, sef ein prif swyddfa yng Nghaernarfon a swyddfeydd ym Mhwllheli a Dolgellau.
Ar ol datblygu perthynas waith agos a nifer o gleientiaid ledled Cymru, rydym yn ymfalchio yn ein dull cydweithredol o weithio'n rhanbarthol er mwyn darparu'n lleol.
Mae ein timau amlddisgyblaeth sy'n cynnwys peirianwyr, penseiri, syrfewyr, arbenigwyr llifogydd ac amgylcheddol yn ymroddedig i ddod o hyd i'r atebion mwyaf arloesol a phriodol i ddiwallu anghenion ein cleient.
...............
About Us
We ensure that the environment is protected at all times during construction and have tailored our services to meet customer demand.
We are based in Gwynedd in north Wales over three locations - our main office in Caernarfon and offices at Pwllheli and Dolgellau.
Having developed a close working relationship with a number of clients across Wales, we pride ourselves on our collaborative approach of working regionally in order to deliver locally.
Our multidisciplinary teams that include engineers, architects, surveyors, flooding and environmental specialists are dedicated to finding the most innovative and appropriate solutions to meet our client's needs.
............
Pwrpas y swydd
Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth rydym yn ei wneud.
oCynorthwyo Rheolwr yr Uned, Arweinwyr Tim a Rheolwyr Prosiect gyda'u dyletswyddau ar brosiectau.
oCynorthwyo a'r gofynion ar gyfer rheolaeth ariannol prosiectau a swyddogaethau. Rhoi adborth ariannol i Uwch Reolwyr YGC yn fisol neu fel bo'r angen.
oCydgysylltu gydag Adain Adnoddau'r Adran a chynnal perthynas ddi-dor drwy holl swyddogaethau gwasanaeth YGC.
oDatblygu a chynnal gwybodaeth arbenigol yn o leiaf un canolfan gweithgarwch craidd y Tim Gwasanaethau Cefnogol.
oBod yn llwyr ymroddedig i fodloni anghenion y cleient.
oDarparu swyddogaeth Gefnogol gydlynol i YGC sy'n hwyluso cyflawni gwasanaethau yn broffesiynol ar draws y Gwasanaeth yn ei gyfanrwydd gan gynnwys (ond nid yn gyfyngedig i) Beirianneg Sifil, Peirianneg Strwythurol, Trwsio a Chynnal a Chadw, Gwasanaethau Pensaerniol a Rheolaeth Prosiect.
oCyflawni gofynion deddfwriaeth iechyd a diogelwch ac amgylcheddol. Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
oCanfod a chynnal y wybodaeth ddiweddaraf yngl?n ag:--arfer gorau cyfredol o ran materion dylunio-safonau a datblygiadau technegol (gan gynnwys technoleg gyfredol)-cyfrifoldebau proffesiynol a statudol (yn cynnwys e.e. y rhai dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ac ati 1974, Deddf Adeiladu 1984, Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1982, Rheoliadau Cynefinoedd 1994 a Rheoliadau addas e.e. rheoliadau CDM) a'u cymhwysiad i'r gwaith a'r swyddogaethau sy'n cael eu gweithredu.
oDarparu a chynnal cyfrifoldeb goruchwyliol, fel y dyrennir gan y rheolwr llinell, am y staff o fewn Gwasanaethau Cefnogol YGC - dyrannu gwaith, monitro a datblygu staff eilaidd.
oSicrhau y caiff holl daflenni amser a chymeradwyaeth staff eu cwblhau yn unol a gweithdrefnau YGC.
oDisgwylir i ddeilydd y swydd gydymffurfio a gofynion Iechyd a Diogelwch a chydweithredu a chynrychiolydd Iechyd a Diogelwch YGC.
oSicrhau bod YGC yn ateb gofynion y Cyngor. Prif ddyletswyddau
oDatblygu a chynnal perthynas broffesiynol gyda chleientiaid.
oCynnal cofnod cryno o wybodaeth ariannol a chytundebol am yr holl waith sy'n cael ei wneud (cyfrifon cynlluniau, tystysgrifau taliadau ac ati)
oCynnal cofnod o ganiatad a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru
oRheoli / datblygu Taflenni Amser a systemau sy'n ymwneud a rheoli prosiectau
oSicrhau bod gofynion y System Rheoli Ansawdd yn cael eu hystyried yn llawn drwy swyddogaeth y Gwasanaethau Cefnogol yn ei gyfanrwydd.
oRhoi adborth ariannol i Dim Rheoli YGC ar bob maes gweithgaredd fel bo'r angen, gan gynnwys Peirianneg Sifil, Peirianneg Strwythurol, Trwsio a Chynnal a Chadw, Gwasanaethau Pensaerniol, Rheoli Prosiectau, Gwasanaethau Technegol Cysylltiedig a Rheolaeth Adeiladu.
oCynnal a datblygu gweithdrefnau sy'n cefnogi ac yn ategu integreiddiad yr holl systemau ar wahan sy'n hanfodol ac/ neu'n neilltuol i ehangder gwasanaeth YGC.
oParatoi datganiad cyfrif busnes ariannol ar gyfer yr holl swyddogaethau YGC, ar ddiwedd bob chwarter fan leiaf (Mehefin, Medi, Rhagfyr a Mawrth).
oBod yn gyfrifol am gasglu, monitro a choladu Dangosyddion Perfformiad Allweddol YGC.
oParatoi rhagolygon cyllidebol, proffiliau gwariant a chyflwyniadau archebion chwarterol i Lywodraeth Cynulliad Cymru a'r holl gleientiaid eraill, gan gwblhau cyflwyniadau ar ddiwedd blynyddoedd ariannol, mewn ymgynghoriad ag adeiniau/adrannau eraill, a chwblhau datganiadau ariannol misol sy'n ymdrin ag amrediad llawn gwasanaethau YGC.
oProsesu anfonebau i'w talu (mewnol ac allanol) i'r holl gleientiaid, fel bo'r angen, ond ddim hwyrach na chylch dau fis.
oSicrhau fod y trefniadau gweinyddol ac ariannol ar gyfer adnabod, archebu, cwblhau a thalu am waith gan YGC yn glir, yn syml ac yn gweithredu'n effeithiol ac yn sicrhau cydymffurfiaeth a gweithdrefnau caffael corfforaethol.
oRheoli systemau a meddalwedd cyfrifiadur yng nghyswllt yr uchod a chynnal cyfrifoldeb am yr holl gronfeydd data a'r cofrestri sy'n hanfodol i YGC weithredu'n effeithlon sy'n cynnwys y Gofrestr Ffeiliau, Cronfa Ddata Prosiectau a'r Gofrestr Talu ac ati.
oCysylltu a gwasanaethau eraill, cyfadrannau eraill, ymgymerwyr statudol, awdurdodau eraill, sefydliadau allanol, ac unigolion sy'n ymwneud a holl agweddau'r gwaith.
oGoruchwylio ac arwain gwaith a datblygiad staff eilaidd.
oAdrodd i uwch staff, a derbyn cyfarwyddiadau ganddynt.
oUnrhyw ddyletswyddau gweinyddol a phroffesiynol eraill sy'n berthnasol, ac yn gymesur ag awdurdod y swydd.
oMaterion o natur bersonol a chyfrinachol sydd i dderbyn sylw gofalus a chyda disgresiwn.
oCyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
oSicrhau cydymffurfiaeth a rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol a'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
oGweithredu o fewn polisiau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
oCyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol a safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth a deddfwriaeth Diogelu Data
oYmrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol a'r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ol-troed carbon y Cyngor.
oYmgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd a lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
oCyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin Amgylchiadau arbennig
oRheoli gwariant ei hun ar brosiectau.
oY gallu i weithio dan bwysau a symbylu is-staff.
........................
Purpose of the post
Ensure that the people of Gwynedd are at the heart of everything we do.
oTo assist the Unit Managers, Team Leaders and Project Managers with their duties on projects.
oTo assist in the requirements for financial control of projects and functions. Financial feedback YGC Senior Management at monthly intervals or as needs dictate.
oLiaise with Departmental Resources Division and orchestrate a seamless relationship throughout all YGC functions.
oTo develop and maintain a specialist knowledge in at least one core activity centre of the Support Services Team.
oTo have full commitment to satisfy client needs.
oTo provide a coherent Support function to YGC which facilitates a professional services delivery across the service breadth including (but not exclusive to) Civil Engineering, Structural Engineering, Repairs and Maintenance, Architectural Services and Project Management.
oTo fulfil requirements of health and safety and environmental legislation. Responsibility for functions
oTo acquire and maintain an up to date knowledge of:-- current best practice in design issues- technical standards and developments (including current technology)- professional and statutory responsibilities (including e.g. those under the Health and Safety at Work etc. Act, 1974, Wildlife & Countryside Act 1982, Habitat Regulations 1994 and appropriate Regulations e.g. CDM regulations) and of their application relevant to the work and functions being carried out.
oTo provide and maintain supervisory responsibility as delegated by the line manager for staff within YGC's Support Services - allocating work, monitoring and developing subordinate staff.
oTo ensure that all timesheets are completed in accordance with YGC procedures.
oThe post holder is expected to be aware of the requirements of Health and Safety and to collaborate with YGC's Health and Safety representative
oEnsure that YGC meets the requirements of the Council Main duties
oDevelop and maintain a practical and professional relationship with clients.
oMaintain a summary record of financial and contractual information on all works being undertaken (scheme accounts, payment certificates etc)
oMaintain a record of Welsh Assembly Government approvals
oManagement/development of Timesheets and project control related systems.
oEnsure that the Quality Management System's requirements are fully considered throughout all of the Support Services function.
oFinancial feedback to YGC management Team on all areas of activity as and when required, Including Civil Engineering, Structural Engineering, Repairs and Maintenance, Architectural Services, Project Management, Associated Technical Services and Building Control.
oTo maintain and develop procedures which support and complement the integration of all separate systems fundamental and/or peculiar to the service breath of YGC.
oPrepare a business financial statement of account for all YGC functions, at minimum intervals of the end of every quarter (June, September, December and March).
oTo be responsible for collecting, monitoring and collation of YGC's KPI's.
oPreparation of budgetary forecasts, expenditure profiles and quarterly requisition submissions to the Welsh Assembly Government and all other clients, completing the end of financial year submissions, in consultation with other divisions/sections whilst also furnishing monthly financial statements covering the full range of YGC services.
oProcess invoices (internal and external) to all clients for payment, as necessary. but no later than a two monthly cycle.
oEnsure that the administrative and financial arrangements for identifying, ordering, undertaking and paying for work of YGC are clear, simple and operate effectively and ensure compliance with corporate procurement procedures.
oTo manage computer systems and software relating to the above maintaining responsibility for all databases and registers fundamental to the efficient operation of YGC and includes File Register, Project Database, Payment Register etc.
oTo liaise with other services, other directorates, statutory undertakers, other authorities, external organisations, and individuals concerning all aspects of the works.
oTo supervise and guide the work and development of subordinate staffoTo report to, and receive instructions from senior staff
oOther relevant administrative and professional duties commensurate with the seniority of the post.
oIssues of a personal and confidential nature to be dealt with carefully and with discretion.
oResponsibility for self-development.
oEnsure compliance with Health and Safety rules in the workplace in accordance with the responsibilities noted in the Health and Safety at Work Act 1974 and the Council's Health and Safety Policy.
oOperate within the Council's policies in relation to equal opportunities and equality.
oResponsible for managing information in accordance with the Council's information management guidelines. Ensure that personal information is treated in accordance with Data Protection legislation.
oCommitment to reducing the Council's carbon emissions in accordance with the Carbon Management Plan, and to encourage others to act positively towards reducing the Council's Carbon Footprint.
oUndertake any other reasonable duty which corresponds to the salary level and responsibility level of the job.
oResponsibility to report any worry or suspicion that a child or vulnerable adult is being abused Special circumstances
oControl own expenditure on projects.
oAbility to work under pressure and motivate jumior staff.
Job Types: Full-time, Temporary
Pay: 28,598.00-31,022.00 per year
Benefits:
Company pension
Cycle to work scheme
Language training provided
Sick pay
Work Location: In person
Application deadline: 18/08/2025
Beware of fraud agents! do not pay money to get a job
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.