Swyddog Cymorth A Datblygu Cymru

Wales, United Kingdom

Job Description


Disgrifiad Swydd Teitl y Swydd:Swyddog Cymorth a Datblygu Cymru Adran: Shine Cymru Yn adrodd i: Rheolwr Gwasanaeth Cymru Cyflog: \xc2\xa327,776 pro rata Oriau: 12 awr yr wythnos, (dros 2 ddiwrnod, i\'w gytuno) Lleoliad: Gweithio gartref - yn ardal Gogledd-ddwyrain Cymru a\'r ardal gyfagos gyda hyblygrwydd i deithio ledled Cymru fel sy\'n ofynnol Rydym yn chwilio am rywun eangfrydig, arloesol, brwdfrydig, trefnus, hyderus a rhywun sy\'n cyfathrebu\'n gryf a all helpu i ddatblygu ein cymorth i aelodau Shine yng Nghymru yn dilyn derbyn arian yn ddiweddar o Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Diben y swydd Cyflwyno gwasanaeth o\'r radd flaenaf a hwyluso cyfleoedd i unigolion \xc3\xa2 spina bifida a/neu hydroceffalws a\'u teuluoedd/gofalwyr drwy fod yn aelodau o Shine. Grymuso a galluogi aelodau y mae\'r cyflyrau yn effeithio arnynt i fyw bywydau iach a hapus drwy gael mwy o annibyniaeth, rheoli cyflyrau yn well a chreu cysylltiadau \xc3\xa2 chymuned Shine ledled Cymru. R\xc3\xb4l graidd \xc2\xb7 Darparu gwybodaeth i unigolion, teuluoedd, a gofalwyr y mae Spina Bifida a/neu Hydroceffalws yn effeithio arnynt. \xc2\xb7 Rhoi cyngor, cymorth ac arweiniad i alluogi pobl \xc3\xa2 Spina Bifida a/neu Hydroceffalws i gael y budd-daliadau cywir i ddod yn sefydlog yn ariannol, y gwasanaethau cywir i wella eu hiechyd a\'u llesiant, ac i gydgysylltu eu cymorth a\'u hannibyniaeth yn well drwy amrywiaeth o ddulliau. \xc2\xb7 Cyfeirio aelodau unigol a/neu eu teuluoedd/gofalwyr at y ffynhonnell o arbenigedd a chymorth mwyaf priodol yn nh\xc3\xaem iechyd Shine ac arweinwyr dynodedig eraill o fewn y sefydliad, neu eu cyfeirio at asiantaethau allanol fel sy\'n briodol. \xc2\xb7 Datblygu grwpiau sy\'n benodol i oedran a rhwydweithiau cymorth gan gymheiriaid a fydd yn rhoi cyfleoedd i bobl \xc3\xa2 Spina Bifida a/neu Hydroceffalws gysylltu a rhyngweithio, gan alluogi cyfleoedd cymdeithasol a rhannu profiadau, cefnogi a dysgu gan ei gilydd. \xc2\xb7 Gweithio gyda gwirfoddolwyr Shine a datblygu cyfleoedd ar eu cyfer. \xc2\xb7 Cyfrannu at ddarparu rhaglen o ddigwyddiadau rhanbarthol a chenedlaethol i aelodau Shine, yn seiliedig ar anghenion a dddordebau a nodwyd, lleoliad daearyddol ac oedran. Bydd y rhain yn ddigwyddiadau wyneb yn wyneb a rhithwir. \xc2\xb7 Rhoi gwybodaeth i weithwyr proffesiynol sy\'n gweithio gyda\'r unigolion a\'r teuluoedd hynny y mae Spina Bifida a/neu Hydroceffalws yn effeithio arnynt. \xc2\xb7 Codi mwy o ymwybyddiaetj o Spina Bifida a/neu Hydroceffalws ymysg gweithwyr proffesiynol, sefydliadau allanol a\'r cyhoedd drwy gyflwyniadau, hyfforddiant a phresenoldeb mewn digwyddiadau proffesiynol. \xc2\xb7 Hyrwyddo aelodaeth Shine i bobl \xc3\xa2 chyflyrau perthnasol. \xc2\xb7 Cadw cofnodion clir a chywir ar gyfer monitro a gwerthuso drwy ddefnyddio ein system cronfa ddata Salesforce. \xc2\xb7 Gweithio gyda chydweithwyr gwasanaethau, codi arian, marchnata, ymddiriedolaethau a sefydliadau eraill ac aelodau Shine i nodi a manteisio ar gyfleoedd posibl i godi arian ar gyfer cynnal y gwaith yn yr hirdymor. \xc2\xb7 Paratoi a chadw cyfeirlyfr wedi\'i ddiweddaru o gysylltiadau perthnasol ledled yr ardal a rhannu gwybodaeth berthnasol gyda chydweithwyr. \xc2\xb7 Cyflawni dyletswyddau gweinyddol fel sy\'n ofynnol gan y r\xc3\xb4l. \xc2\xb7 Unrhyw ddyletswyddau eraill yn unol \xc3\xa2\'r r\xc3\xb4l. Meini prawf hanfodol \xc2\xb7 Y gallu i deithio ledled yr ardal ddynodedig. \xc2\xb7 Oriau gwaith hyblyg. Gall hyn gynnwys rhai nosweithiau a phenwythnosau \xc2\xb7 Y gallu i weithio o gartref \xc2\xb7 Y gallu i fod llawn cymhelliant ac i weithio ar eich liwt eich hun gartref, gan deithio ledled yr ardal a\'r Rhanbarth hefyd, er mwyn bod yn rhan o\'r t\xc3\xaem gwasgaredig ehangach, ar yr un pryd. \xc2\xb7 Bydd angen DBS uwch \xc2\xb7 Trwydded yrru lawn y DU a\'r defnydd o gar Profiad a chymwysterau - hanfodol \xc2\xb7 O leiaf dwy flynedd o brofiad diweddar o ddarparu gwasanaethau cymorth a chyngor \xc2\xb7 Profiad o weithio gyda phobl o bob oedran ag anableddau \xc2\xb7 O leiaf ddwy flynedd o brofiad o gynghori ar un neu fwy o\'r canlynol: iechyd a llesiant; annibyniaeth; budd-daliadau; addysg a dysgu; cyflogaeth; meithrin cyfeillgarwch a sgiliau cymdeithasol; lleihau unigedd; gofal cymdeithasol; tai \xc2\xb7 Profiad o ddatblygu a chyflwyno cyfleoedd i alluogi a grymuso pobl ag anableddau i gyflawni eu nodau tuag at annibyniaeth. Gwybodaeth, sgiliau a galluoedd - hanfodol \xc2\xb7 Dealltwriaeth o spina bifida a hydroceffalws a\'r materion a\'r heriau y mae\'r bobl sy\'n byw gyda\'r cyflyrau hyn yn eu hwynebu \xc2\xb7 Y gallu i weithio gyda phobl yn unigol ac i hwyluso a chynnal gweithgareddau a digwyddiadau gr\xc5\xb5p \xc2\xb7 Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac yn ysgrifenedig \xc2\xb7 Sgiliau TG gyda gwybodaeth dda o systemau a rhaglenni cyfrifiadurol (e.e. Word, Excel a PowerPoint) a\'r defnydd o gronfeydd data \xc2\xb7 Dull o weithio gyda phobl nad yw\'n feirniadol Profiad a Chymwysterau - dymunol \xc2\xb7 Meddu ar gymhwyster mewn maes sy\'n gysylltiedig ag iechyd, nyrsio, gofal cymdeithasol neu anabledd \xc2\xb7 Profiad o weithio yn y trydydd sector gyda th\xc3\xa2l neu heb d\xc3\xa2l Gwybodaeth, sgiliau a galluoedd - dymunol \xc2\xb7 Dealltwriaeth o\'r r\xc3\xb4l y mae cymorth gan gymheiriaid yn ei chwarae wrth wella gwasanaethau a chymorth i\'r aelodau \xc2\xb7 gYmwybyddiaeth a dealltwriaeth o sut i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol a\'i effeithiolrwydd wrth leihau unigedd cymdeithasol. Yn gyfnewid am hyn, bydd Shine yn cynnig y canlynol i chi: \xc2\xb7 Cyflog cystadleuol o \xc2\xa327,776 (Pro rata) \xc2\xb7 Cyfraniad o 3% tuag at bensiwn \xc2\xb7 25 diwrnod o wyliau a gwyliau\'r banc a chyfnod o wyliau ychwanegol yn \xc3\xb4l disgresiwn rhwng y Nadolig a\'r Flwyddyn Newydd (pro-rata ar gyfer oriau rhan amser) \xc2\xb7 Cymorth i ddysgu a datblygu \xc2\xb7 Y cyfle i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol \xc2\xb7 Lwfans band eang \xc2\xb7 Gwyliau blynyddol ychwanegol oherwydd hyd gwasanaeth Mae Shine yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd a bydd yn cynnig gwarantu cyfweliadau os bydd ymgeisydd anabl yn bodloni\'r meini prawf gofynnol ar gyfer y swydd. Er mwyn gwneud cais, dylech gyflwyno eich CV a\'ch datganiad i\'w ategu, a ddylai nodi eich diddordeb ac egluro sut y gallwch fodloni meini prawf y r\xc3\xb4l i hr@shinecharity.org.uk *Sylwer na chaiff ceisiadau heb ddatganiad ategol eu derbyn* Dyddiad cau: 27 Tachwedd Cyfweliadau: 4 Rhagfyr - rhithwir Noder: mae gennym yr hawl i gyfweld ag ymgeiswyr addas cyn y dyddiad cau, ac felly rydym yn annog ceisiadau cyn gynted \xc3\xa2 phosibl. Job Type: Part-time Salary: Up to \xc2\xa327,776.00 per year Expected hours: 12 per week Ability to commute/relocate:

  • Wales: reliably commute or plan to relocate before starting work (required)
Education:
  • GCSE or equivalent (preferred)
Experience:
  • Home care: 1 year (preferred)
Language:
  • English (preferred)
Licence/Certification:
  • Driving Licence (preferred)
Work Location: In person

Beware of fraud agents! do not pay money to get a job

MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.


Job Detail

  • Job Id
    JD3009736
  • Industry
    Not mentioned
  • Total Positions
    1
  • Job Type:
    Full Time
  • Salary:
    Not mentioned
  • Employment Status
    Permanent
  • Job Location
    Wales, United Kingdom
  • Education
    Not mentioned