Mae Ynys Mon yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae'n ymwneud a gwella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol a ninnau, sy'n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd a meddylfryd byd busnes, sy'n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu'r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Mon sy'n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni'n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tim. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o'r buddion y gallwn eu cynnig i'n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Mon
Pwrpas cyffredinol y swydd
Yn unol a gofynion Rhan 2 Deddf Tai (Cymru) 2014, cymryd camau i atal neu leddfu digartrefedd cyn gynted ag y bo modd a sicrhau datrysiadau ymarferol trwy ymyriadau amserol a thrwy roi cyngor, gwybodaeth ac eiriolaeth gynhwysfawr yn y maes tai
Mewn achosion lle nad oes modd atal digartrefedd, ymchwilio i geisiadau gan bobl ddigartref a phenderfynu arnynt, a hynny'n unol a'r ddeddfwriaeth, cyfraith achosion, canllawiau statudol, arferion gorau a pholisiau a gweithdrefnau adrannol.
Yn gyfrifol am atal a datrys digartrefedd a chynghori, cynorthwyo a hysbysu'r rheini sydd angen tai. Yn ogystal, asesu, cynghori a chynorthwyo cwsmeriaid o dan y ddeddfwriaeth tai a'r ddeddfwriaeth digartrefedd berthnasol mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys dros y ffon, wyneb yn wyneb, mewn cyfarfodydd amlasiantaeth a thrwy ohebiaeth / e-bost.
Mwy o wybodaeth
Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.
Penodiad yn ddibynnol ar Gwiriad GDG (DBS) lefel safonol boddhaol
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r fanyleb person i'ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.
Manylion cyswllt
Enw:
Daniel Roebuck
Rhif ffon:
01248 752200
Cyfeiriad e-bost:
danielroebuck@ynysmon.llyw.cymru
Job Reference: CORP100483
Beware of fraud agents! do not pay money to get a job
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.