Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o 50 miliwn, sy'n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.
Y Rol:
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno a'n Tim Celfyddydau Gweledol llwyddiannus ar gampws hanesyddol Llwyn y Bryn yn ardal yr Uplands. Mae gan yr adran dros 200 o ddysgwyr ar hyn o bryd ac maent yn dymuno datblygu eu sgiliau creadigol gyda'r nod o symud ymlaen i gyrsiau lefel uwch neu gyflogaeth.
I gynnig gwasanaeth dros gyfnod mamolaeth, rydym yn chwilio am geisiadau gan unigolion sy'n gallu gweithredu rol Technegydd Celfyddydau Gweledol, gan gynnig cymorth a chyngor ar ystod o gyrsiau Celfyddydau Gweledol.
Amser Llawn (37 awr yr wythnos)
Yn ystod y tymor (36 wythnos y flwyddyn) - cyfnod penodol o flwyddyn,
24,691 - 25,217 y flwyddyn
Campws Llwyn y Bryn
Cyfrifoldebau Allweddol:
Paratoi a gosod offer a deunyddiau yn barod ar gyfer dosbarthiadau a gweithdai
Cynorthwyo gyda pharatoi mannau arddangos, gan gynnwys hongian gwaith celf a gosod a symud byrddau arddangos a stondinau.
Dosbarthu deunyddiau ac offer benthyca i fyfyrwyr e.e. camerau
Amdanoch chi:
Cymhwyster Lefel 3 neu gyfwerth mewn maes dysgu sy'n ymwneud a Chelf
Y gallu i ddefnyddio TG a thaenlenni, neu barodrwydd i ddysgu sut i wneud hyn
Profiad o drin celf ac offer eraill ynghyd a sgiliau ymarferol a thechnegol
Buddion:
28 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae'r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2024)
2 ddiwrnod lles i staff
Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau'r Coleg
Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recriwtio/buddion-a-lles
Angen cymorth gyda'ch cais?
Cliciwch ein tudalen canllaw.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo'u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu'n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi'u cynrychioli'n ddigonol o fewn ein sefydliad.
Os hoffech ymgymryd a'r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i'n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a'r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio a'r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd a gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd a hyfforddiant Ymatebwr Cyntaf a mabwysiadu dyletswyddau Ymatebwr Cyntaf. Ar ol cwblhau'r hyfforddiant, byddwch yn derbyn 50 y mis.
Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno'ch cais yn gynnar.
Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).
Beware of fraud agents! do not pay money to get a job
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.