Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o 50 miliwn, sy'n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.
Y rol:
Dyma gyfle cyffrous i Diwtor/Aseswr cymwysedig sydd a chefndir iechyd a gofal cymdeithasol i ymuno a'n tim llwyddiannus a phroffesiynol, sy'n gweithredu o fewn Hyfforddiant CGA, cangen fasnachol y Coleg.
Amser-Llawn (37 awr yr wythnos)
Parhaol
29,910 - 32,918 y flwyddyn
Llys Jiwbili (Fforestfach)
Cyfrifoldebau Allweddol:
Cynllunio, paratoi ac addysgu amrywiaeth o raglenni gan sicrhau bod cynlluniau/cofnodion gwaith ac amserlenni aseiniadau yn briodol i gynnwys y maes llafur a safonau'r corff dyfarnu
Cynllunio a darparu 12 awr o hyfforddiant yr wythnos i ddysgwyr lle bo angen (staff pro rata ar gyfer staff ffracsiynol).
Sicrhau bod strategaethau addysgu a dysgu a deunyddiau dysgu'n cael eu cynllunio a gwneud yn siwr eu bod yn hygyrch i ateb anghenion amrywiol yr holl ddysgwyr.
Amdanoch chi:
Cymhwyster Lefel 3 neu gyfwerth mewn sector perthnasol
Dyfarniad TAQA neu barodrwydd i weithio tuag at ennill un
Gwybodaeth fasnachol, profiad a dealltwriaeth o'r diwydiant, gan gynnwys anghenion hyfforddi
Gweithio ar eich liwt eich
Buddion:
28 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae'r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2024)
2 ddiwrnod lles i staff
Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recriwtio/buddion-a-lles
Angen cymorth gyda'ch cais?
Cliciwch ein tudalen canllaw.
Os nad oes gennych gymhwyster asesu, gall Coleg Gwyr Abertawe gynnig cymorth ac arweiniad i ymgeiswyr llwyddiannus fel y gallant ennill dyfarniad/tystysgrif dan fframwaith TAQA. Cyflawnir hyn trwy ein cyfleuster datblygiad proffesiynol. Dysgwch ragor:
https://www.gcs.ac.uk/cy/cyrsiau
Os ydych chi'n meddu ar gymhwyster neu ddyfarniad Asesu D32/D33/A1, cysylltwch a ni! Mae'r rhain yn gymwysterau dilys a chydnabyddedig. Mae Coleg Gwyr Abertawe yn gallu cynnig hyfforddiant gloywi i ymgeiswyr llwyddiannus er mwyn i chi ddiweddaru eich cymhwyster asesu.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo'u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu'n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi'u cynrychioli'n ddigonol o fewn ein sefydliad.
Os hoffech ymgymryd a'r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i'n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a'r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio a'r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd a gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).
Beware of fraud agents! do not pay money to get a job
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.