CRYNODEB SWYDD
Hyfforddi dysgwyr prentisiaeth mewn amgylchedd addysg, yn benodol ar y llwybrau Arweinyddiaeth a Rheolaeth.
Darparu cefnogaeth ychwanegol lle bo angen a gwneud penderfyniadau asesu i farnu cymhwysedd yn erbyn eu rhaglenni prentisiaeth dewisol.
Cynnal safonau darparu.
Cynnal cydymffurfiaeth yn unol a chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Siaradwr Cymraeg hanfodol.
PRIF DYLETASAU
Asesu cyflawniadau blaenorol ar y cychwyn, nodi addasrwydd y dysgwr ar gyfer prentisiaethau uwch.
Nodi anghenion cefnogi dysgwyr e.e. Sgiliau Hanfodol a Sgiliau Meddal.
Cytuno ar bwyntiau cychwyn a gosod targedau i ddatblygu a symud ymlaen drwy'r brentisiaeth.
Gweithio ar y cyd a chydweithwyr, dysgwyr a chyflogwyr i ddylunio a gweithredu rhaglenni prentisiaeth a dysgu seiliedig ar waith o ansawdd uchel.
Cyflwyno profiadau addysgu ystyrlon a phwrpasol i adeiladu gwybodaeth a sicrhau effaith uchaf i ddysgwyr a chyflogwyr.
Cyd-destunoli dysgu ar gyfer rolau arweinyddiaeth a rheolaeth ym maes Chwaraeon, Hamdden a/neu Addysg.
Darparu ystod o gyfleoedd asesu holistaidd i unigoleiddio tystiolaeth cymhwysedd i gefnogi datblygiad gyrfa.
Cyflwyno ac asesu'r holl gymwysterau o fewn fframwaith dysgwyr gan gynnwys prif gymwysterau, tystysgrifau technegol a/neu dystysgrifau Sgiliau Hanfodol Cymru.
Sicrhau bod gosod targedau yn ysgogi'r dysgwr a darparu adborth ysgrifenedig a llafar ar gynnydd tuag at dargedau cytun.
Sicrhau bod dysgwyr yn cyrraedd targedau.
Adolygu cynnydd dysgwyr yn unol a gofynion contract a systemau'r sefydliad.
Gwerthuso a dogfennu'r dysgu'n llawn.
Cynnal safonau presennol.
Sicrhau bod polisiau a gweithdrefnau diogelu'r cwmni yn cael eu gweithredu a'u dilyn.
Sicrhau bod arferion diogel a diwylliant o ddiogelwch yn cael eu hyrwyddo.
Sicrhau bod cadw a chyflawni dysgwyr o fewn targedau'r sefydliad.
Monitro presenoldeb a riportio unrhyw bryderon.
MANYLEB PERSONHANFODOL:
Cymwys i gyfathrebu a chefnogi dysgwyr drwy gyfrwng y Gymraeg.
Asesydd cymwysedig llawn (D32/33/A1/TAQA L3/CAVA L3).
Gwybodaeth am rolau a chyfrifoldebau arweinyddiaeth a rheolaeth ym maes Addysg, Chwaraeon a/neu Hamdden.
Eich cludiant eich hun i gyfarfod a chyflogwyr a dysgwyr yn y gweithle ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru.
DYMUNOL:
Profiad o raglenni a ariennir gan ESF fel Prentisiaethau a Job Growth Wales+.
Cymhwyster Sicrhau Ansawdd Mewnol.
SWYDDI YN ACHIEVE MORE TRAINING YN CYNNWYS:
Aelodaeth Campfa Flynyddol
39 Diwrnod Gwyliau y Flwyddyn
Ad-daliad Teithio
Buddion Cynllun Bupa Cashplan
Cefnogaeth barhaus i gyrraedd nodau gyrfa unigol.
3 diwrnod i ffwrdd i staff bob blwyddyn
Gweithio o bell, gyda mynediad i swyddfeydd yn Y Deeside (Gogledd Cymru).
CENHADAETH ACHIEVE MORE TRAINING:
Creu llwybrau proffesiynol, cynhwysol ym maes Chwaraeon, Hamdden ac Addysg
GWERTHOEDD ACHIEVE MORE TRAINING:
Datblygu arweinwyr uchelgeisiol ar bob lefel
Ffocws seiliedig ar atebion drwy arloesedd a chydweithredu
Diwylliant cadarnhaol, rhagweithiol wedi ei adeiladu ar uniondeb ac ymddiriedaeth
Codi safonau, gwella ansawdd, ACHIEVE MORE
Hyfforddiant: Cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant IQA a symud ymlaen
Job Types: Full-time, Permanent
Pay: 25,000.00-32,000.00 per year
Benefits:
Additional leave
Company events
Company pension
Free or subsidised travel
Gym membership
Health & wellbeing programme
Work from home
Location:
North Wales (required)
Work Location: Remote
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.