We use cookies to offer you the best possible website experience. Your cookie preferences will be stored in your browser's local storage. This includes cookies necessary for the website's operation. Additionally, you can freely decide and change any time whether you accept cookies or choose to opt out of cookies to improve the website's performance, as well as cookies used to display content tailored to your interests. Your experience of the site and the services we are able to offer may be impacted if you do not accept all cookies. Let me choose
Reject additional cookies Accept additional cookies
Press Tab to Move to Skip to Content Link
SEARCH JOBS
APPLY NOW
Start
Please wait...
Uwch Newyddiadurwr
Job Requisition ID: 31175
Job Closing Date: 13 October 2025
Cardiff, GBR, CF10 1FT
MANYLION Y SWYDD
BAND Y SWYDD: D
MATH O GONTRACT: Tymor penodol tan 31 Mawrth 2026
ADRAN: Newyddion BBC Cymru / Cymru Fyw
LLEOLIAD: Caerdydd neu Bangor
YSTOD CYFLOG: 41,300 - 49,133 yn ddibynnol ar sgiliau, gwybodaeth a phrofiad perthnasol. Mae'r amrediad cyflog disgwyliedig ar gyfer y swydd hon yn adlewyrchu meincnodi mewnol a gwybodaeth am y farchnad allanol.
Mae sgiliau'r Iaith Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
PWRPAS Y SWYDD
Fel uwch newyddiadurwr fe fyddwch yn chwarae rhan allweddol mewn siapio agenda newyddion digidol Cymru Fyw a meddwl yn greadigol am gynnwys ar gyfer cynulleidfaoedd Cymraeg. Byddwch yn gyfrifol am arwain tim bach o newyddiadurwyr, gan gynnig arweiniad golygyddol ac ymwybyddiaeth o ystyriaethau cyfreithiol, er mwyn ymateb i straeon sydd yn torri, a chyhoeddi straeon gwreiddiol. Bydd hi'n allweddol dangos dealltwriaeth o anghenion y gynulleidfa, gan feddwl am ffyrdd o dargedu cynulleidfaoedd newydd a hyrwyddo amrywiaeth. Bydd angen arddangos dealltwriaeth o dechnoleg newydd ac arddel uchelgais i ddatblygu cynnwys creadigol ac arbrofol ar gyfer y platfformau digidol a chyfryngau cymdeithasol.
PAM YMUNO A'R TIM
Mae tim Cymru Fyw wedi eu lleoli ar draws Cymru, gyda newyddiadurwyr a chynhyrchwyr cynnwys yn cydweithio i greu gwasanaeth cynhwysfawr yn Gymraeg. Bydd cyfle i weithio ar straeon yn annibynnol a hefyd dirprwyo yn gyson mewn cyfarfodydd a digwyddiadau. Mae cyfle hefyd i ddatblygu sgiliau digidol wrth fod yn rhan o drafodaethau am ddatblygiad gweledol y wefan a datblygu platfformau cyfryngau cymdeithasol, mewn byd sydd yn newid yn gyflym.
EICH PRIF GYFRIFOLDEBAU A'CH DYLANWAD:
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.