Mae Ynys Mon yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae'n ymwneud a gwella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol a ninnau, sy'n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd a meddylfryd byd busnes, sy'n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu'r safonau uchaf posibl.
Ein nod yw creu Ynys Mon sy'n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Pwrpas cyffredinol y swydd
Mae'r Uwch Peiriannydd Seilwaith - DDaT yn gweithio o fewn y ddisgyblaeth Peirianneg Seilwaith TG yn y gr?p swyddi technegol DDaT. Mae'r swydd yn cynnwys y swyddogaethau sy'n gysylltiedig a'r dyluniad, adeiladu, darparu a chynnal gweinydd a Seilwaith cwmwl y Cyngor. Bydd yn gweithio o fewn y ddisgyblaeth beirianneg ac ar y cyd a'r disgyblaethau eraill i weithredu datrysiadau TG cost-effeithiol o ansawdd uchel i fodloni ystod hynod gymhleth o ofynion busnes ar draws y sefydliad. Byddant yn cynnal ymchwil lle cant eu cyfarwyddo i dechnolegau sy'n dod i'r amlwg mewn technolegau gweinyddion, storio a chwmwl i sicrhau bod y Cyngor yn barod ar gyfer newidiadau yn y dirwedd dechnoleg.
Gan adrodd i'r Peiriannydd Seilwaith Arweiniol - DDaT, bydd y swydd hon yn chwarae rhan i gyflawni nodau strategol y tim DDaT. Bydd yn cynorthwyo'r Peiriannydd Arweiniol i sicrhau datrysiadau TG effeithiol ac yn ymgymryd a gwaith ar brosiectau a busnes fel arfer.
Bydd deiliad y swydd yn cefnogi ac yn mentora aelodau'r tim ac yn sicrhau bod y cyngor yn gwella perfformiad, gwydnwch a diogelwch ei seilwaith TG yn barhaus. Bydd yn helpu i ddatblygu'r tim er mwyn diwallu'r newid yn anghenion technoleg y sefydliad trwy rannu gwybodaeth, paratoi dogfennau a chanllawiau a nodi meysydd i'w gwella.
Mwy o wybodaeth
Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r fanyleb person i'ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.
Manylion cyswllt
Enw:
Mark Crawley
Cyfeiriad e-bost:
markcrawley@ynysmon.llyw.cymru
Job Reference: CORP100405
Beware of fraud agents! do not pay money to get a job
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.