Ymgynghorydd Pobl A Datblygu Sefydliadol (sy’n Siarad Cymraeg)

Cardiff, WLS, GB, United Kingdom

Job Description

Mae'n amser gwych i ymuno a ni yn Estyn. Rydym yn cefnogi ysgolion a darparwyr eraill yn weithredol trwy ddiwygiadau cyffrous ym myd addysg yng Nghymru. Mae ein gwaith yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddysgwyr ledled Cymru ac, yn Estyn, maent wrth wraidd popeth a wnawn.

Rydym yn chwilio am Ymgynghorydd Pobl a Datblygu Sefydliadol

sy'n siarad Cymraeg

, sydd a phrofiad o weithio mewn rol adnoddau dynol gyffredinol. Byddwch yn chwarae rol bwysig yn ein swyddogaeth Pobl - gan roi cyngor, cefnogi rheolwyr, datblygu polisi, rheoli gweithgareddau recriwtio a chefnogi dysgu a datblygu.

Am bwy rydym ni'n chwilio



Byddwch yn gyfrifol am gynorthwyo i ddarparu sawl maes allweddol, gan gynnwys recriwtio, dysgu a datblygu, polisi a chysylltiadau a chyflogeion, ymgysylltu, ac amrywiaeth a chynhwysiant.

Mae tasgau allweddol yn cynnwys:



Datblygu polisiau a gweithdrefnau Pobl a sicrhau y cant eu rhoi ar waith yn effeithiol

Darparu gweithgareddau recriwtio ac ymsefydlu effeithiol

Cydlynu'r gwaith o ddarparu a gwerthuso gweithgareddau dysgu a datblygu

Cyswllt / pwynt cyfeirio ar gyfer ymholiadau Pobl a datblygu sefydliadol

Cynnig cyngor a chefnogaeth ar ystod o faterion Pobl, gan gynnwys presenoldeb a rheoli perfformiad, materion disgyblu a datrys anghydfodau

Cynorthwyo i ddatblygu a gweithredu Pobl a mentrau

Cadw cofnodion yn unol a gofynion polisi, archwilio a chyfreithiol (gan gynnwys llywodraethu gwybodaeth a chydymffurfio a GDPR) a sicrhau y caiff gwybodaeth ei phrosesu i'r gyflogres mewn modd amserol

Casglu a dadansoddi gwybodaeth reoli ar gyfer adroddiadau (misol/chwarterol/blynyddol)

Cynorthwyo i gyflwyno'r Arolwg Pobl blynyddol

Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill a all fod yn ofynnol yn rhesymol gan reolwyr

Meini prawf penodol y swydd



Mae'n hanfodol:

y gallwch weithio trwy gyfrwng y Gymraeg (ar lafar ac yn ysgrifenedig)

bod gennych brofiad o weithio mewn rol gyffredinol ym maes Pobl/Adnoddau Dynol

bod gennych wybodaeth eang am gyfraith cyflogaeth ac arfer Adnoddau Dynol

eich bod yn llawn cymhelliant a bod gennych brofiad o reoli llwyth gwaith amrywiol a blaenoriaethau cystadleuol i fodloni terfynau amser

bod gennych fedrau cyfathrebu, llythrennedd a rhifedd rhagorol

eich bod yn defnyddio systemau TG yn hyderus

bod gennych fedrau rhyngbersonol da, eich bod yn hawdd mynd atoch ac yn gallu meithrin perthnasoedd gwaith effeithiol ag ystod eang o bobl ar bob lefel ac yn allanol

eich bod yn gallu ymdrin a materion cyfrinachol mewn modd sensitif

bod gennych yr hyder i wneud penderfyniadau effeithiol, teg ac wedi'u seilio ar dystiolaeth

eich bod yn canolbwyntio ar fanylion ac yn gallu gweithio'n gywir

Mae'n ddymunol bod gennych gymhwyster lefel 3 CIPD.

Hyd:

Parhaol

Cyflog:

29,657 - 33,748

Ymholiadau:

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y rol, cysylltwch a Vicky Price ar vicky.price@estyn.gov.uk neu 02920 446314.

Ymgeisiwch ar-lein:

I wneud cais am y rol, ewch i -

JobBoard (estynpeoplehr.cymru)

.

Job Types: Full-time, Permanent

Pay: 29,657.00-33,748.00 per year

Benefits:

Company pension Cycle to work scheme Free parking
Schedule:

Flexitime Monday to Friday
Language:

Welsh (required)
Work Location: Hybrid remote in Cardiff CF24 5JW

Application deadline: 17/07/2025
Reference ID: EO27

Beware of fraud agents! do not pay money to get a job

MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.


Job Detail

  • Job Id
    JD3240278
  • Industry
    Not mentioned
  • Total Positions
    1
  • Job Type:
    Full Time
  • Salary:
    Not mentioned
  • Employment Status
    Permanent
  • Job Location
    Cardiff, WLS, GB, United Kingdom
  • Education
    Not mentioned