Bydd deiliad y swydd yn darparu cymorth gweinyddol, a'r prif gyfrifoldeb fydd darparu cefnogaeth i Ymchwiliadau. Bydd yn gweithredu fel aelod o'r Gyfarwyddiaeth Gweithrediadau, gan ddarparu gwasanaeth cymorth gweinyddol llawn i Reolwyr Gweithrediadau, Arweinwyr Timau Gweithrediadau ac Ymchwilwyr yn Caerdydd tra hefyd yn darparu cymorth gweinyddol yn genedlaethol yn ol yr angen.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gyflawni'r swyddogaeth rheoli dogfennau o ddiweddaru a chynnal y system rheoli achosion mewn ymchwiliadau annibynnol. Bydd yn cynnal taenlenni lleol a chenedlaethol yn unol a chyfarwyddyd. Bydd hefyd yn drafftio gohebiaeth, yn monitro blychau e-bost apelau am dystion ac yn cynnal cofnodion rheoli perfformiad. Gan weithredu fel pwynt cyswllt cyntaf i'r rhai a fydd yn cysylltu ar gyfer Ymchwiliadau pan fo'n briodol, bydd yn cydgysylltu ag asiantaethau allanol a phartion tramgwyddedig boed dros y ffon, e-bost neu drwy'r post ac yn sicrhau eu bod yn cael eu trin yn brydlon, yn effeithlon ac yn gwrtais.
Wrth gwblhau rhai o'r tasgau hyn, gall deiliad y swydd weld rhywfaint o ddeunydd sensitif neu ddeunydd a all beri gofid.
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.