Mae'r Cylch Meithrin yn chwilio am arweinydd ymroddgar, cydwybodol, brwdfrydig a chyfeillgar i arwain pob agwedd o waith y Cylch am 5 bore yr wythnos (gyda optiwn i weithio rhai sesiynnau pnawn). Rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn siaradwr newydd sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg. Gofynnir am gymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig addas ar Lefel 3 neu uwch ynghyd a phrofiad perthnasol i gymryd gofal o gylch. / The Cylch Meithrin is looking for a committed, friendly leader to lead all aspects of the Cylch for 5 morning s aweek (with additional hours available in afternoon sessions). You must be a fluent Welsh speaker or a good Welsh learner. Level 3 early years qualification or above is required and relevant experience.
Cymwysterau
Dylai bod gan Arweinydd Cylch gymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig addas ar Lefel 3 neu uwch ynghyd a phrofiad perthnasol i gymryd gofal o Gylch er enghraifft
Diploma neu Radd mewn Addysg Blynyddoedd Cynnar
Diploma neu CGC Lefel 4 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant
Diploma NNEB/CACHE
Diploma Lefel 3 CACHE mewn Gofal ac Addysg y Blynyddoedd Cynnar (Cyfrwng
Cymraeg)
Diploma Lefel 3 neu Lefel 5 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant
CGC Lefel 3 mewn Gofal ac Addysg y Blynyddoedd Cynnar/Gofal Dysgu a Datblygiad Plant
Cymhwyster perthnasol arall.
Gweler gwefan Gofal Cymdeithasol Cymru am restr o'r cymwysterau gofynnol i weithio yn y Sector Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yng Nghymru. https://socialcare.wales/cms_assets/file-uploads/List-of-required-qualifications-to-work-within-early-years-and-childcare-sector-in-Wales.pdf
Iaith
Dylech fod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn Siaradwr newydd sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg
Dyletswyddau
Bydd yr Arweinydd yn atebol i Bwyllgor Rheoli'r Cylch am gyflawni'r canlynol:
arolygu, monitro a gwerthuso gwaith pob aelod o staff y Cylch
sicrhau y gweithredir canllawiau a pholisiau'r Cylch Meithrin ym mhob gweithgaredd gan bob aelod o staff
sicrhau bod y Cylch yn gweithredu egwyddorion a nodau'r Cwricwlwm i Gymru yn ei holl weithgareddau
cydymffurfio a holl reoliadau cofrestru'r Arolygiaeth Gofal Cymru
sicrhau bod ystafell y Cylch a'r cyfleusterau (gan gynnwys y tu allan) yn ddeniadol ac yn groesawgar, ac yn cydymffurfio a holl ofynion iechyd a diogelwch
sicrhau darpariaeth ddigonol o adnoddau amrywiol tu mewn a thu allan er mwyn hybu sgiliau ieithyddol, corfforol, mathemategol, creadigol, cymdeithasol,
sicrhau amgylchedd effeithiol tu mewn a thu allan a chynnig profiadau dilys a phwrpasol sy'n ennin diddordeb y plant a.y.y.b.
sicrhau bod trefniadau penodol i blant elwa o chwarae tu allan, hyd yn oed pan nad oes man chwarae pwrpasol ar gael i'r Cylch a bachu ar y cyfle i ymweld ac archwilio'r gymuned lleol
sicrhau bod gweithgareddau a chyflenwad digonol o adnoddau ar gael sydd yn hybu datblygiad iaith Gymraeg y plant
sicrhau bod pob aelod o staff yn hyrwyddo'r iaith Gymraeg ar bob adeg yn y Cylch
cyflwyno negeseuon i rieni yngl?n a phwysigrwydd hybu dilyniant addysg trwy gyfrwng y Gymraeg
meithrin cysylltiadau a'r ysgol leol/ysgol gynradd Gymraeg a'r Cylch Ti a Fi / Cymraeg i Blant
cydweithio fel tim er mwyn cynllunio gwaith a gweithgaredd y Cylch yn y tymor byr ac yn y tymor hir
sicrhau cefnogaeth ar gyfer plant ag anghenion ychwanegol a'u teuluoedd gan gydweithio a Chysylltydd y Cynllun Cyfeirio lleol (os yn berthnasol) neu Swyddog Arweiniol ADY y Blynyddoedd Cynnar'
cadw cofnod o ddatblygiad y plant gan gynnwys esiamplau o'u gwaith
sicrhau cyfle i rieni drafod datblygiad eu plant
mynychu unrhyw hyfforddiant perthnasol i'r swydd
Marchnata'r Cylch ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn ehangach i ddefnyddwyr y Cylch a'r cyhoedd yn gyffredinol.
mynychu cyfarfodydd Pwyllgor Rheoli'r Cylch gan baratoi adroddiadau ar weithgareddau'r Cylch i'w cyflwyno
ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau ychwanegol sy'n berthnasol i'r swydd yn ol cyfarwyddyd y Pwyllgor Rheoli, e.e. cyfrifoldeb am anghenion arbennig, cymorth cyntaf, a iechyd a diogelwch
Job Types: Part-time, Permanent
Pay: From 14.00 per hour
Expected hours: No less than 15 per week
Language:
Welsh (required)
Work Location: In person
Beware of fraud agents! do not pay money to get a job
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.