Arweinydd Cylch Meithrin Shotton/ Cylch Meithrin Shotton Leader

Deeside, WLS, GB, United Kingdom

Job Description

Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy'r Dirprwy Rheolwr Talaith am gyflawni'r dyletswyddau canlynol.

Ysgwyddo cyfrifoldeb am sicrhau bod y cylch yn darparu gwasanaeth o'r safon uchaf gan ddatblygu'r gweithgareddau a chyfleusterau i'w llawn botensial.

Sicrhau y gweithredir polisiau a gweithdrefnau'r cylch yn effeithiol ar bob adeg.

Gweithredu polisi a gweithdrefn diogelu plant.

Sicrhau, ar y cyd gyda'r Rheolwr/Arweinydd bod y Cylch yn cydymffurfio a Safonau Gofynnol a Rheoliadau Arolygiaeth Gofal Cymru.

Gweithredu o fewn gofynion cynlluniau sirol megis Estyn, Dechrau'n Deg .

Sicrhau bod pob plentyn a rhiant yn cael eu croesawu a'u trin gyda pharch gan gwrdd a'u hanghenion cymdeithasol ac emosiynol, gan sicrhau cyfathrebu cyson.

Sicrhau darpariaeth ddigonol o adnoddau amrywiol sy'n addas i oedran y plant er mwyn hybu eu datblygiadau.

Sefydlu a gweithredu systemau o fonitro a gwerthuso ansawdd y gwasanaeth.

Sicrhau y darperir gweithgareddau chwarae yn yr awyr agored.

Cyflwyno'r dull Trochi gan sicrhrau mai Cymraeg yw cyfrwng pob gweithgaredd.

Arwain y gwaith o ddatblygu Cwricwlwm i Gymru / Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir .

Sefydlu a gweithredu system effeithiol o arsylwi a monitro plant.

Trefnu rota staffio dyddiol/wythnosol gan gadw at gymarebau Arolygiaeth Gofal Cymru.

Ysgwyddo cyfrifoldeb dros holl agweddau diogelu plant, gan gydweithio a'r asiantaethau statudol, a mynychu cynadleddau achos yn ol yr angen.



- y gweithredir yr arfer orau gan y staff

- sicrhau bod pawb yn cael eu trin yn deg/chynhwysol

- ymateb i unrhyw ymholiadau ac anghenion staff

- cynnal cyfarfodydd staff misol

- cynnal cyfarfodydd arfarnu bob 6 mis

- annog Datblygiad Profesiynol Parhaus (DPP) gan drefnu rhaglen o hyfforddiant yn rheolaidd mewn partneriaeth a'r Dirprwy Rheolwr Talaith

Mynychu cyfarfodydd gyda'r Dirprwy Rheolwr Talaith yn ol yr angen.

Mynychu hyfforddiant perthnasol yn ol yr angen.

Os yn ddarparwr Dechrau'n Deg, cydymffurfio a holl ofynion Dechrau'n Deg gan gynnwys paratoi adroddiadau, mynychu cyfarfodydd, digwyddiadau ac unrhyw hyfforddiant perthnasol.

Bod yn brif gyswllt i weithwyr proffesiynol, gan gynnwys Swyddogion Dechrau'n Deg, Gweithwyr Cymdeithasol, Ymwelwyr Iechyd, Therapyddion Lleferydd ayyb a darparwyr eraill yn y gymuned leol.

Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau ychwanegol sy'n berthnasol i'r swydd yn ol cyfarwyddyd y Mudiad.

Job Types: Full-time, Permanent

Pay: 27,904.50 per year

Work Location: In person

Beware of fraud agents! do not pay money to get a job

MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.


Related Jobs

Job Detail

  • Job Id
    JD4139851
  • Industry
    Not mentioned
  • Total Positions
    1
  • Job Type:
    Full Time
  • Salary:
    Not mentioned
  • Employment Status
    Full Time
  • Job Location
    Deeside, WLS, GB, United Kingdom
  • Education
    Not mentioned