Asesydd Hyfforddai Mewnol – Prentisiaethau (hyfforddiant Llawn Yn Cael Ei Ddarparu)

WLS, GB, United Kingdom

Job Description

CRYNODEB SWYDD

Mae hon yn gyfle cyffrous i unigolion sy'n dymuno adeiladu gyrfa ym maes addysg a hyfforddiant.

Fel Asesydd Hyfforddai Mewnol, byddwch yn cefnogi dysgwyr prentisiaeth, yn enwedig yn y llwybrau Cymorth Addysgu a Dysgu, Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol a Chynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch.

Byddwch yn derbyn hyfforddiant a mentora llawn i ennill cymwysterau perthnasol a dod yn Asesydd cymwysedig llawn o fewn eich blwyddyn gyntaf.

Byddwch yn gweithio ochr yn ochr a staff profiadol i gefnogi datblygiad dysgwyr, olrhain cynnydd, a sicrhau darpariaeth o safon uchel sy'n cydymffurfio a chanllawiau Llywodraeth Cymru.

Mae sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol.

PRIF DYLETASAU (Yn ystod Hyfforddiant ac wrth Symud Ymlaen)

Cymryd rhan mewn rhaglen hyfforddi strwythuredig i ennill cymwysterau Asesydd (NVQ Lefel 3 mewn Dysgu a Datblygu).

Cysgodi aseswyr profiadol i ddeall dulliau asesu a chefnogi dysgwyr.

Dysgu sut i asesu cyflawniadau blaenorol dysgwyr a nodi pwyntiau mynediad addas i raglenni prentisiaeth.

Cynorthwyo i nodi anghenion cefnogi dysgwyr, gan gynnwys Sgiliau Hanfodol a datblygiad Sgiliau Meddal.

Cefnogi'r cynllunio a'r ddarpariaeth o brofiadau dysgu ac asesu wedi eu teilwra, mewn cydweithrediad a chydweithwyr a chyflogwyr.

Arsylwi a chyfrannu'n raddol at gyflwyno addysgu effeithiol ac ymgysylltiol sy'n helpu i adeiladu gwybodaeth a sgiliau.

Dysgu sut i ddarparu adborth adeiladol a gosod targedau sy'n annog cynnydd dysgwyr.

Cefnogi adolygiadau rheolaidd dysgwyr a helpu i fonitro a dogfennu eu taith ddysgu.

Helpu i gynnal safonau ansawdd ac cynorthwyo gyda chydymffurfiaeth diogelu ac iechyd a diogelwch.

Gweithio tuag at gyflawni nodau cadw a llwyddo dysgwyr.

Datblygu hyder mewn ymgysylltu a chyflogwyr a dysgwyr, gan gynnwys ymweliadau yn y gweithle ar draws Gogledd Cymru.

MANYLEB PERSONHANFODOL:

Graddedig diweddar (neu lefel addysg gyfwerth) gyda diddordeb cryf mewn addysg, hyfforddiant, neu weithio gyda dysgwyr.

Ymrwymiad i weithio tuag at gymwysterau Asesydd o fewn 12 mis (wedi ei ariannu'n llawn).

Gallu siarad Cymraeg neu barodrwydd i ddatblygu sgiliau yn y Gymraeg.

Trefnus, hunan-gymhellol, a pharod i deithio i gyfarfod a dysgwyr a chyflogwyr ar draws Gogledd Cymru (angen trafnidiaeth eich hun).

DYMUNOL:

Profiad mewn rol gefnogi, mentora neu addysgu (tal neu wirfoddol).

Cyfarwydd gyda'r sector addysg neu amgylcheddau dysgu seiliedig ar waith.

Ymwybyddiaeth o raglenni a ariennir fel Prentisiaethau neu Jobs Growth Wales+.

SWYDDI YN ACHIEVE MORE TRAINING YN CYNNWYS:

Aelodaeth Campfa Flynyddol

39 Diwrnod Gwyliau y Flwyddyn

Ad-daliad Teithio

Buddion Cynllun Bupa Cashplan

Cefnogaeth barhaus i gyrraedd nodau gyrfa unigol.

3 diwrnod i ffwrdd i staff bob blwyddyn

Contract cartref / o bell

CENHADAETH ACHIEVE MORE TRAINING:

Creu llwybrau proffesiynol, cynhwysol ym maes Chwaraeon, Hamdden ac Addysg

GWERTHOEDD ACHIEVE MORE TRAINING:

Datblygu arweinwyr uchelgeisiol ar bob lefel

Ffocws seiliedig ar atebion drwy arloesedd a chydweithredu

Diwylliant cadarnhaol, rhagweithiol wedi ei adeiladu ar uniondeb ac ymddiriedaeth

Codi safonau, gwella ansawdd, ACHIEVE MORE

Job Types: Full-time, Permanent, Internship
Contract length: 12 months

Pay: 23,500.00-27,000.00 per year

Benefits:

Additional leave Company events Company pension Free or subsidised travel Gym membership Health & wellbeing programme Work from home
Location:

North Wales (required)
Work Location: Remote

Beware of fraud agents! do not pay money to get a job

MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.


Related Jobs

Job Detail

  • Job Id
    JD3581990
  • Industry
    Not mentioned
  • Total Positions
    1
  • Job Type:
    Full Time
  • Salary:
    Not mentioned
  • Employment Status
    Permanent
  • Job Location
    WLS, GB, United Kingdom
  • Education
    Not mentioned