Mae Ynys Mon yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae'n ymwneud a gwella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol a ninnau, sy'n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd a meddylfryd byd busnes, sy'n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu'r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Mon sy'n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni'n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tim. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o'r buddion y gallwn eu cynnig i'n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Mon
Pwrpas cyffredinol y swydd
Darparu gwasanaeth cegin o ansawdd uchel wrth ddarparu bwyd i ddefnyddwyr gwasanaeth o fewn cyfyngiadau'r gyllideb. Bod yn gyfrifol am weithrediad effeithiol ac effeithlon y gegin, a goruchwyliaeth ffurfiol o staff y gegin a bod yn rhan o dim fydd a'r nod i hyrwyddo lles cyffredinol defnyddwyr gwasanaeth. I weithio mewn partneriaeth a defnyddwyr gwasanaeth yn annog dewis, cyfranogiad ac ysgogiad, gan lynu bob amser at werthoedd y sefydliad.
Mwy o wybodaeth
Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.
Penodiad yn ddibynnol ar Gwiriad GDG (DBS) lefel
uwch
boddhaol.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r fanyleb person i'ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.
Manylion cyswllt
Name:
Rachel Williams
Phone number:
01248 752066
Email:
RachelWilliams@ynysmon.gov.uk
Job Reference: CORP100509
Beware of fraud agents! do not pay money to get a job
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.