Cydlynydd Systemau Gwasanaethau Technegol Tai

Gaerwen, WLS, GB, United Kingdom

Job Description

Gweithio i Gyngor Sir Ynys Mon



Mae Ynys Mon yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae'n ymwneud a gwella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol a ninnau, sy'n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd a meddylfryd byd busnes, sy'n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu'r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Mon sy'n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.



Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni'n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tim. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o'r buddion y gallwn eu cynnig i'n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Mon

Pwrpas cyffredinol y swydd



Cyfrifoldeb dros weinyddu, monitro a datblygu Systemau Gwybodaeth y Gwasanaethau Tai ar gyfer Cynnal a Chadw, Gwaith Cylchol, Eiddo Gwag a Rheoli Asedau. Sicrhau bod Systemau Gwybodaeth y Gwasanaethau Technegol yn cael eu defnyddio'n effeithiol ac effeithlon er mwyn gwella perfformiad.




Mae deall a datrys materion cymhleth, cymryd camau pendant, dod o hyd i ffyrdd o wella arferion a sicrhau bod prosesau'n ddealladwy a chyson yn rhan annatod o'r swydd.




Sicrhau bod yr uned yn cadw at y Protocol Parhad Busnes a bod mesurau'n cael eu rhoi ar waith a'u gweithredu pe byddai systemau'n methu.




Byddwch yn ysgogi gwelliannau parhaus yn ein prosesau a'n systemau i wneud yn si?r ein bod ar y blaen o ran darparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid.




Gweithio a'r tim Rheoli Perfformiad i ddatblygu, monitro a gwerthuso Dangosyddion Perfformiad a Dangosyddion Perfformiad Allweddol.





Mwy o wybodaeth

Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.





Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.



Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.


Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r fanyleb person i'ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.



Manylion cyswllt

Enw:

Lesley Roberts


Rhif ffon:

01248 752287


Cyfeiriad e-bost:

lesleyroberts@ynysmon.llyw.cymru



Job Reference: CORP100539

Beware of fraud agents! do not pay money to get a job

MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.


Job Detail

  • Job Id
    JD4027507
  • Industry
    Not mentioned
  • Total Positions
    1
  • Job Type:
    Full Time
  • Salary:
    Not mentioned
  • Employment Status
    Full Time
  • Job Location
    Gaerwen, WLS, GB, United Kingdom
  • Education
    Not mentioned