Mae Ynys Mon yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae'n ymwneud a gwella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol a ninnau, sy'n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd a meddylfryd byd busnes, sy'n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu'r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Mon sy'n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni'n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tim. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o'r buddion y gallwn eu cynnig i'n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Mon
Pwrpas cyffredinol y swydd
Mae Dadansoddwr Busnes Technegol DdaT yn gweithio o fewn y ddisgyblaeth Partneriaeth Fusnes yn y gr?p swyddi Gweithrediadau DDaT. Mae'r swydd yn cynnwys gweithio gyda'r gr?p swyddi ehangach i sicrhau bod gan y tim DDaT berthynas weithgar ac iach a'r unedau busnes y mae'n eu gwasanaethu a bod dealltwriaeth fanwl yn cael ei ffurfio o'r prosesau a ddefnyddir gan unedau busnes i wasanaethu anghenion ei gwsmeriaid.
Bydd y swydd yn darparu arbenigedd dadansoddi busnes i gefnogi'r gwaith o ailgynllunio gwasanaethau a phrosiectau TGCh ehangach a chyfleoedd trawsnewid digidol. Fel Dadansoddydd Busnes Technegol, byddwch yn rhan allweddol o brosiectau TGCh corfforaethol a rhanbarthol i ddeall systemau, meysydd gwaith a phroblemau busnes i nodi gwelliannau sy'n diwallu anghenion busnes a defnyddwyr.
Gan adrodd i'r Rheolwr Perthynas Fusnes Arweiniol, bydd y swydd hon yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni nodau strategol y tim DDaT trwy gyflawni'r Strategaethau TG Corfforaethol ac Addysg.
Mae'r rol yn gofyn am sgiliau dadansoddol, cyfathrebu a sefydliadol rhagorol i ymchwilio i broblemau busnes trwy ymchwilio, dadansoddi ac edrych sut i drosi anghenion yn brosesau a gofynion y manylir arnynt er mwyn cynllunio gwasanaethau a manylebau system dechnegol yn effeithiol. Byddwch yn defnyddio technegau dadansoddi busnes i weithio gyda chwsmeriaid i nodi cyfleoedd i sicrhau
arbedion effeithlonrwydd i wasanaethau trwy weithredu technoleg newydd. Byddwch yn darparu dadansoddiad technegol arbenigol ar gyfer prosiectau TG cymhleth, gan arwain at weithredu newidiadau mewn technoleg a phrosesau busnes ar draws y cyngor a phrosiectau rhanbarthol a chenedlaethol ehangach.
Bydd deiliad y swydd yn defnyddio technegau dadansoddi busnes i gefnogi'r systemau dadansoddi, cynllunio, datblygu a phrofi i sicrhau eu bod yn bodloni gofynion adrannau a defnyddwyr wrth ddarparu gwerth am arian o gyllideb feddalwedd y Cyngor.
Byddwch yn ymgysylltu a defnyddwyr, rheolwyr, cyflenwyr a chydweithwyr TGCh i gasglu gwybodaeth a datblygu cynigion ar gyfer gwelliannau a phrosiectau, a fydd, o'u gweithredu, yn diwallu anghenion busnes.
Byddwch hefyd yn ymgymryd ag unrhyw weithgareddau cysylltiedig a neilltuir gan eich rheolwr. Mae'r rol yn cynnwys lefel uchel o gyswllt uniongyrchol a chwsmeriaid ar bob lefel o fewn y sefydliad a gyda chyflenwyr a phartneriaid eraill. Mae hyn yn golygu ei bod yn hanfodol bod deiliad y swydd yn meithrin perthynas ddibynadwy a gwerthfawr gyda gwasanaethau a chwsmeriaid.
Mwy o wybodaeth
Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r fanyleb person i'ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.
Manylion cyswllt
Enw:
Stuart Jewell
Rhif ffon:
07483424980
Cyfeiriad e-bost:
stuartjewell@ynysmon.llyw.cymru
Job Reference: CORP100444
Beware of fraud agents! do not pay money to get a job
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.