Sefydlwyd Uned Datblygu Busnes Grwp Colegau NPTC yn 2017 gyda'r nod deuol o ddarparu gwasanaeth i unigolion a chyflogwyr y tu allan i'n cwricwlwm amser llawn. Rydym wedi tyfu'n sylweddol yn y 7 blynedd diwethaf ac mae'r adran yn rhedeg ac yn gweinyddu tua 300 o gyrsiau'r flwyddyn, ar gyfer dros 2000 o ddysgwyr o ddiwydiant a'r rhai sy'n ceisio ailsgilio/uwchsgilio a datblygu eu gyrfa. Wedi'i lleoli yng Nghastell-nedd, y Drenewydd a Bannau Brycheiniog, mae gan yr Uned Datblygu Busnes dim o Gynghorwyr Ymgysylltu Busnes sy'n gweithio ar draws y rhanbarth i gefnogi busnesau. Lleolir y swydd hon i ddechrau yng Nghastell-nedd ac mae'n cynnwys trefnu ymweliadau a chyflogwyr a phenderfynu pa gymorth y gall y Coleg a'i bartneriaid ei ddarparu.
Graddfa 5, Pwyntiau 25-28, 31,001 - 33,385 y flwyddyn, pro rata, sy'n cyfateb i 15,500 - 16,692 y flwyddyn.
18.5 awr yr wythnos (gan gynnwys gyda'r hwyr ac yn gynnar yn y bore ac ar benwythnosau yn achlysurol).
Dydd Llun - 9:30yb - 2:30yp
Dydd Mawrth - 9:30yb - 2:30yp
Dydd Mercher - 9:30yb - 3:00yp
Dydd Iau - 9:30yb - 2:30yp
Parhaol, rhan amser.
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.