Mae Ynys Mon yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae'n ymwneud a gwella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol a ninnau, sy'n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd a meddylfryd byd busnes, sy'n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu'r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Mon sy'n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni'n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tim. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o'r buddion y gallwn eu cynnig i'n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Mon
Pwrpas cyffredinol y swydd
Mae Rheolwr Perthynas Fusnes DDaT yn gweithio o fewn y ddisgyblaeth Partneru Busnes yn nheulu swyddi Gweithrediadau DDaT. Mae'r swydd yn cynnwys gweithio gyda'r teulu swyddi ehangach i sicrhau bod gan dim DDaT berthynas weithredol ac iach a'r unedau busnes y mae'n eu gwasanaethu. Byddant yn sicrhau bod rhanddeiliaid yn rhan o gylchred bywyd TG ac yn cael gwybod am raglenni a phrosiectau gwaith parhaus. Byddant yn arwain ymchwil i dechnolegau sy'n dod i'r amlwg ac yn sicrhau bod y Cyngor yn barod ar gyfer newidiadau yn y dirwedd dechnoleg.
Gan adrodd i'r Rheolwr Perthynas Fusnes Arweiniol, bydd y swydd hon yn chwarae rhan allweddol i gyflawni nodau strategol y tim DDaT trwy gyflawni'r Strategaethau TG Corfforaethol ac Addysg. Rhan sylweddol o'r rol fydd cydlynu'r gwaith o reoli a chyflawni prosiectau TG mawr, cymhleth, gan arwain at weithredu newidiadau mewn technoleg a mapio phrosesau busnes ar draws y cyngor ac fel
rhan o'r agenda cydweithredol ehangach.
Mae gan y swydd rol ddeuol, o fewn yr Adran TG a chyda chwsmeriaid mewn Cyfarwyddiaethau o ran rheoli perthnasoedd, hyrwyddo technoleg, rheoli lefel gwasanaeth a rheoli datrys unrhyw broblemau neu geisiadau gwasanaeth TG y gyfarwyddiaeth.
Bydd deiliad y swydd hefyd yn defnyddio technegau dadansoddi busnes i weithio gyda chwsmeriaid i nodi anghenion defnyddwyr a gwasanaethau a nodi cyfleoedd ar gyfer effeithlonrwydd gwasanaethau y gellid eu hennill o weithredu technoleg newydd. Byddant hefyd yn ymgymryd ag unrhyw weithgareddau cysylltiedig a neilltuwyd iddynt gan eu rheolwr.
Mae'r rol yn cynnwys gradd uchel o gyswllt uniongyrchol a chwsmeriaid ar bob lefel o fewn y sefydliad a chyda chyflenwyr a phartneriaid eraill. Mae hyn yn golygu ei bod yn hanfodol bod deiliad y swydd yn meithrin perthynas ddibynadwy a gwerthfawr a gwasanaethau a chwsmeriaid.
Mwy o wybodaeth
Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r fanyleb person i'ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.
Manylion cyswllt
Enw:
Stuart Jewell
Rhif ffon:
07483424980
Cyfeiriad e-bost:
stuartjewell@ynysmon.llyw.cymru
Job Reference: CORP100443
Beware of fraud agents! do not pay money to get a job
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.