Mae Ynys Mon yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae'n ymwneud a gwella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol a ninnau, sy'n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd a meddylfryd byd busnes, sy'n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu'r safonau uchaf posibl.
Ein nod yw creu Ynys Mon sy'n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Pwrpas cyffredinol y swydd
Cyffredinol:-
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gosod dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i ddarparu agwedd ataliol tuag at ddarparu gwasanaethau llesiant i drigolion. Er mwyn ein galluogi ni i wella ein hymateb i'r ddyletswydd hon; rydym yn sefydlu tim newydd a fydd yn darparu teuluoedd a chefnogaeth ddwys a chyflym gyda'r nod o gryfhau gwydnwch, atal teuluoedd rhag chwalu a hyrwyddo newid fel bod yr amgylchedd teuluol yn un diogel.
Nod y Tim Teuluoedd Gwydn fydd:
Gweithio'n ddwys a theuluoedd er mwyn cadw eu plant allan o ofal.
Gweithio'n ddwys a theuluoedd er mwyn ailuno plentyn a'i deulu o fewn 8 wythnos o'r adeg pryd y dechreuodd dderbyn gofal.
Gweithio'n ddwys a theuluoedd sydd wedi'u hadnabod er mwyn eu hailuno gyda'u plant sydd mewn gofal ar hyn o bryd ac achos lle mae dychwelyd adref wedi cael ei nodi fel cynllun parhaol ar eu cyfer yn y tymor hir.
Bydd y Tim yn cynnwys gweithwyr proffesiynol sydd a'r sgiliau a'r profiad o weithio'n uniongyrchol a phlant sy'n derbyn gofal a chefnogaeth, eu rhieni ac oedolion ag anghenion iechyd a gofal cymdeithasol cymhleth. Bydd y tim yn gweithio'n rhagweithiol ac yn ddwys gyda theuluoedd er mwyn rheoli risg, ymateb yn ddigyffro i argyfwng a thrwy ffyrdd arloesol, cymorth ymarferol a sgiliau therapiwtig, cryfhau gwytnwch, gallu rhianta a lleihau risg o fewn teuluoedd, er mwyn sicrhau gwell
canlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc.
Prif Bwrpas y Swydd:-
Bydd deilydd y swydd yn gweithio fel aelod o dim ac yn darparu ymyriadau amserol, hyblyg, ymarferol ac yn seiliedig ar dystiolaeth i blant/pobl ifanc a'u teuluoedd:
Lle mae risg y bydd y plentyn/person ifanc yn dod i mewn i ofal
Er mwyn dychwelyd plant/pobl ifanc yn ol adref o ofal, os yw hynny'n ddiogel ac yn ymarferol, o fewn cyfnod o 8 wythnos.
Galluogi plant sydd wedi bod mewn gofal am gyfnod sylweddol o amser i ddychwelyd yn ol adref yn ddiogel.
Bydd deilydd y swydd yn gweithio gyda rhieni/gofalwyr/plant a phobl ifanc i adeiladu ar gryfderau teuluoedd. Drwy rymuso teuluoedd y nod fydd eu harfogi i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth ac i gymryd cyfrifoldeb am eu bywydau eu hunain.
Bydd gofyn i ddeilydd y swydd weithio'n agos ag amrywiaeth eang o asiantaethau, teuluoedd a swyddogion proffesiynol.
Bydd deilydd y swydd yn gweithio ar lefel 1:1 neu mewn sefyllfa gr?p gyda phlant, pobl ifanc a/neu eu teuluoedd. Byddant yn gweithio mewn lleoliadau amrywiol e.e. ysgolion, cartrefi ac yn y gymuned leol.
Bydd gan ddeilydd y swydd wybodaeth a phrofiad da a chadarn am ddiogelu plant a dilyn gweithdrefnau a phrotocolau er mwyn sicrhau mai diogelwch plant yw'r ystyriaeth bwysicaf.
Bydd disgwyl i ddeilydd y swydd gyfrannu at dim sy'n tyfu wrth i'r broses o ymyrraeth ddwys wreiddio fel rhan o'r ddarpariaeth leol.
Mwy o wybodaeth
Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.
Penodiad yn ddibynnol ar Gwiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r fanyleb person i'ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.
Manylion cyswllt
Enw:
Dawn Hutchinson
Rhif ffon:
01248 750057
Cyfeiriad e-bost:
dawnhutchinson@ynysmon.llyw.cymru
Job Reference: CORP100408
Beware of fraud agents! do not pay money to get a job
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.