Mae Ynys Mon yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae'n ymwneud a gwella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol a ninnau, sy'n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd a meddylfryd byd busnes, sy'n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu'r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Mon sy'n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni'n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tim. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o'r buddion y gallwn eu cynnig i'n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Mon
Pwrpas cyffredinol y swydd
Mae'r fenter newydd hon wedi ei gyd gynllunio mewn cydweithrediad rhwng Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a Dysgu Ynys Mon. Mae'r t?m yn fodel newydd o ddarparu gwasanaethau amlasiantaeth sy'n cael ei ddatblygu a'i weithredu yn Ynys Mon fel rhan o strategaeth newydd o gydweithio i gefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd i gyflawni eu llawn botensial addysgol a chymdeithasol. Bydd y pwyslais
ar ymyrraeth gynnar effeithiol yn mywydau y plant a'u teuluoedd er mwyn cefnogi'r newidiadau hynny a fydd yn sicrhau ffyniant y plant yn addysgol ac yn gymdeithasol.
Bydd deilydd y swydd yn helpu i ddarparu ymyriadau a chymorth addysgol a chymdeithasol yn uniongyrchol i blant, pobl ifanc a theuluoedd a gyfeiriwyd. Bydd deilydd y swydd yn rhan o dim a fydd yn tyfu wrth i'r broses ymyrraeth gynnar a'r strategaeth atal wreiddio o fewn y ddarpariaeth leol.
Bydd yn ofynnol i ddeilydd y swydd weithio'n agos gydag ystod eang o asiantaethau a sicrhau bod gan deuluoedd a gweithwyr proffesiynol wybodaeth gywir a chyfredol am y gwasanaeth a ddarperir gan y Tim a gwasanaethau eraill ar yr ynys.
Bydd deilydd y swydd yn gweithio ar sail 1:1 neu mewn sefyllfa gr?p gyda phlant, pobl ifanc a / neu eu teuluoedd. Bydd yn gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau e.e. ysgolion, cartrefi, y gymuned.
Bydd disgwyliad fod y gweithwyr o fewn y t?m wybodaeth dda a chadarn am ddiogelu plant a phroifiad o'r maes.
I gydymffurfio a Pholisi Diogelu Corfforaethol yr awdurdod lleol a'r dyletswyddau a chyfrifoldebau diogelu y mae'r polisi hwnnw'n eu gosod ar bob gweithiwr, yn cyd-fynd a gwerthoedd craidd yr Awdurdod sy'n cynnwys cefnogi plant, oedolion sydd mewn perygl a'u teuluoedd i'w cadw'n ddiogel ac iach.
Mwy o wybodaeth
Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.
Penodiad yn ddibynnol ar Gwiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r fanyleb person i'ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.
Manylion cyswllt
Enw:
Nia Williams
Rhif ffon:
07811721093
Cyfeiriad e-bost:
niawilliams@ynysmon.llyw.cymru
Job Reference: CORP100475
Beware of fraud agents! do not pay money to get a job
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.