Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o 50 miliwn, sy'n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.
Y rol:
Byddwch yn gweithio o fewn maes dysgu galwedigaethol penodol ac fel rhan o'n tim Profiad y Dysgwr. Byddwch yn cefnogi dysgwyr ar sail fugeiliol, gan osod targedau ac ysgogi cymhelliant ac agwedd myfyrwyr at ddysgu. Byddwch hefyd yn monitro presenoldeb dysgwyr, allbwn gwaith ac agwedd at ddysgu. Byddwch hefyd yn gyfrifol am gyflwyno pob agwedd ar y rhaglen diwtorial, gan gynnwys testunau gorfodol (e.e. diogelu) a lles dysgwyr.
Amser llawn (37 awr yr wythnos)
Cyfnod penodol tan Mehefin 2026
28,387 - 30,850 y flwyddyn
Campws Tycoch
Cyfrifoldebau Allweddol:
Cynnal cyfarfodydd un-i-un gyda phob dysgwr a neilltuwyd drwy gydol y flwyddyn academaidd, gan ddefnyddio ymyriadau priodol a gosod targedau i fynd i'r afael a thanberfformio.
Cynnal sesiynau tiwtorial o ansawdd uchel, sy'n cefnogi datblygiad sgiliau ehangach i gefnogi cynnydd academaidd a dilyniant i'r lefel astudio nesaf, darpariaeth prentisiaeth, cyflogaeth neu AU. Bydd hyn yn cynnwys cyflwyno pob agwedd ar y Cynllun Gwaith tiwtorial, gan gynnwys deunydd rhaglen orfodol a lles.
Mynd i'r afael a phryderon ymddygiad dysgwyr mewn modd amserol yn unol a pholisiau a gweithdrefnau'r coleg, gan ddefnyddio ymyriadau priodol a chofnodi'r camau a gymerwyd.
Datblygu diwylliant o gydnabyddiaeth gadarnhaol o gyflawniad dysgwyr o fewn y Maes Dysgu trwy drefnu amrywiol fentrau gwobrwyo e.e. system gydnabod presenoldeb uchel
Amdanoch chi:
Hyder a'r gallu i gyfathrebu'n glir ac yn effeithiol a gwahanol grwpiau o bobl e.e. pobl ifanc, rhieni, sefydliadau allanol, staff academaidd
Y gallu i ddiffinio ffiniau clir wrth weithio'n agos gyda phobl ifanc
Y gallu i ddefnyddio menter a blaenoriaethu
Buddion:
28 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae'r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2023)
2 ddiwrnod lles i staff
Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau'r Coleg
Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recriwtio/buddion-a-lles
Angen cymorth gyda'ch cais?
Cliciwch ein tudalen canllaw.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo'u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu'n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi'u cynrychioli'n ddigonol o fewn ein sefydliad.
Os hoffech ymgymryd a'r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i'n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a'r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio a'r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd a gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno'ch cais yn gynnar.
Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).
Beware of fraud agents! do not pay money to get a job
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.