Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o 50 miliwn, sy'n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.
Y rol:
Gweithio gyda grwp o interniaid ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) i nodi eu cryfderau, eu diddordebau a'u galluoedd mewn perthynas a datblygu sgiliau a swyddi a sicrhau cyflogaeth. Rhoi technegau hyfforddi swyddi ar waith gan gefnogi datblygiad pobl ifanc tuag at sicrhau cyflogaeth. Byddwch hefyd yn ceisio ffynonellau cymorth a chyflogaeth priodol yn unol a diddordebau a sgiliau'r myfyrwyr, gan weithio gyda busnesau a'r diwydiant lleol i ddiwallu eu hanghenion cyflogaeth. Byddwch hefyd yn cyfeirio pobl ifanc ar y rhaglen at wasanaethau cymorth priodol at ddibenion hyfforddiant a chyflogaeth.
37 Awr
Cyfnod Penodol, 1 flwyddyn
13.20 - 14.36 (FTE 25,458 - 27,713)
Campws Tycoch
Cyfrifoldebau Allweddol:
Cynnig hyfforddiant a chymorth i interniaid ar safle gwaith y busnes neu swydd, gan gynnwys: mynychu sesiwn sefydlu gyda'r intern ac egluro gwybodaeth gysylltiedig yn ol yr angen, gan nodi Addasiadau Rhesymol a gofynion technoleg gynorthwyol.
Addysgu tasgau/dyletswyddau/sgiliau craidd y swydd i'r intern. Mae hyfforddwyr gyrfa yn gyfrifol am nifer o fyfyrwyr a byddant yn defnyddio sgiliau cyflogaeth a chymorth da iawn, gan ddarparu cymorth unigol a Chyfarwyddyd Systematig yn dibynnu ar anghenion pob intern a thasg y swydd.
Buddion:
28 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae'r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2024)
2 ddiwrnod lles i staff
Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau'r Coleg
Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recriwtio/buddion-a-lles
Angen cymorth gyda'ch cais?
Cliciwch ein tudalen canllaw.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo'u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu'n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi'u cynrychioli'n ddigonol o fewn ein sefydliad.
Os hoffech ymgymryd a'r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i'n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a'r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio a'r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd a gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).
(KEEP FOR BUSINESS SUPPORT POSTS & DELETE OTHER STATEMENT BELOW)
Beware of fraud agents! do not pay money to get a job
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.