Mae Ynys Mon yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae'n ymwneud a gwella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol a ninnau, sy'n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd a meddylfryd byd busnes, sy'n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu'r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Mon sy'n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni'n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tim. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o'r buddion y gallwn eu cynnig i'n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Mon
Pwrpas cyffredinol y swydd
Mae'r Peiriannydd Cyfrifiadura Defnyddwyr Cefnogol - DDaT yn gweithio o fewn y ddisgyblaeth Rheoli Gwasanaeth TG yn y gr?p swyddi Gweithrediadau DDaT. Mae'r swydd yn cynnwys y swyddogaethau sy'n gysylltiedig a gwasanaeth Rheoli Gwasanaethau TG y Cyngor. Bydd yn sicrhau bod gan unedau busnes a thimau fynediad at reoli gwasanaethau TG effeithiol, ynghyd a datrys problemau. Bydd yn cynorthwyo gydag ymchwil i dechnegau a thechnolegau rheoli gwasanaethau sy'n datblygu ac yn sicrhau bod y Cyngor yn arloesi i ddarparu gwasanaeth sy'n gwella'n barhaus.
Gan adrodd i'r Rheolwr Gwasanaeth TG - DDaT, bydd y swydd hon yn chwarae rhan allweddol i gyflawni nodau strategol y tim DDaT. Bydd yn ymgymryd a gwaith ar brosiectau a busnes fel arfer.
Bydd yn helpu i ddatblygu'r tim er mwyn diwallu'r newid yn anghenion technoleg y sefydliad trwy rannu gwybodaeth, paratoi dogfennau a chanllawiau a nodi meysydd i'w gwella.
Mwy o wybodaeth
Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r fanyleb person i'ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.
Manylion cyswllt
Enw:
Mark Herbert
Rhif ffon:
01248 752525
Cyfeiriad e-bost:
markherbert@ynysmon.llyw.cymru
Job Reference: CORP100515
Beware of fraud agents! do not pay money to get a job
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.