Pennaeth Cyllid

Neath, WLS, GB, United Kingdom

Job Description

Rydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol cyllid profiadol a strategol i arwain a datblygu fel Pennaeth Cyllid. Mae hwn yn gyfle gwych i lunio dyfodol ein hadran ddeinamig.





Graddfa Reoli, Pwyntiau 5-8, 56,899 - 61,834 y flwyddyn.


Amser llawn, parhaol.


37 awr yr wythnos (gan gynnwys gyda'r hwyr ac yn gynnar yn y bore ac ar benwythnosau yn achlysurol).


Grwp Colegau NPTC - wedi'i leoli yng Ngholeg Castell-nedd.


Ynglyn a chi:

Dylai'n hymgeisydd delfrydol fod yn Gyfrifydd Siartredig a meddu ar gymhwyster lefel 6 mewn disgyblaeth berthnasol a bod yn hyddysg mewn TG hyd at Lefel 2 (gan fod yn hyddysg wrth defnyddio MS Excel neu offer dadansoddi eraill). Dylech hefyd feddu ar gymhwyster lefel 2 mewn Saesneg a Mathemateg (TGAU neu gyfwerth). Mae profiad o weithio mewn rol arweinyddiaeth ariannol yn hanfodol.


Ynglyn a ni:

Grwp Colegau NPTC yw un o'r darparwyr Addysg Bellach mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu bron i bob maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol gan gynnwys rhaglen gyffrous ac amrywiol o gyrsiau amser llawn a rhan-amser ar draws lleoliadau o Dde i Ganolbarth Cymru.


Mae Grwp Colegau NPTC wedi bod yn addysgu cenedlaethau'r dyfodol ers dros 90 mlynedd, a chredwn fod cymwysterau a hyfforddiant yn allweddol i lawer o lwybrau gyrfa gwerth chweil. Gyda'n staff addysgu hynod gymwys a'u cyfoeth o wybodaeth am ddiwydiant wrth law, byddwn yn agor y drws i ddyfodol llwyddiannus a llawn boddhad. Mae myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn, ac rydym am iddynt ein gadael wedi cael mwy nag addysg yn unig.

Pam y dylech chi weithio i ni?



Yn ogystal a chyflogau cystadleuol, mae ein cynlluniau pensiwn ymhlith y gorau sydd ar gael. Caiff y rhain eu gweinyddu drwy'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu'r Cynllun Pensiwn Athrawon ac maent yn darparu pensiynau sy'n cynyddu bob blwyddyn yn unol a chwyddiant. Rydym yn cyfrannu dros 20 i'ch pensiwn, am bob 100 rydych chi'n ei ennill.


Mae'r lwfans gwyliau yn ardderchog o flwyddyn 1. Mae gennych 37 diwrnod o wyliau y flwyddyn, a gan ein bod ni'n cau'r Coleg am hyd at 5 diwrnod dros y Nadolig, mae hyn yn golygu hyd at 5 diwrnod o wyliau ychwanegol. Gyda'r 8 diwrnod o wyliau cyhoeddus/banc ar ben hyn, gallech elwa o 50 diwrnod o wyliau blynyddol fel rheolwr. Dyma yw cydbwysedd bywyd-gwaith!


Mae gennym ystod o opsiynau gweithio hyblyg posibl ar gael gan gynnwys gweithio ystwyth, absenoldeb sabathol a rhannu swydd, lle mae'n diwallu anghenion y Coleg. Mae buddion salwch yma yn hael, ac mae staff hefyd yn cael mynediad am ddim at iechyd galwedigaethol annibynnol, y Llinell Gymorth i Weithwyr, llinell gymorth rheoli bywyd a chymorth personol 24 awr. Mae'r Coleg hefyd yn cyflogi Cydlynydd Iechyd a Llesiant penodedig, sy'n darparu cefnogaeth ac yn trefnu digwyddiadau poblogaidd iawn ar draws y Grwp, yn ogystal a darparu mynediad i amrywiaeth o adnoddau llesiant rhad ac am ddim.


Mae maes parcio am ddim ym mhob un o'n prif golegau yn ogystal a lle i storio beiciau, ac os ydych wedi'ch lleoli yn y De gallwn hefyd gynnig gostyngiad o 10% ym Meithrinfa Ddydd Lilliput yng Nghastell-nedd.


Mae'r Coleg yn addysgwr ac felly rydym yn hyrwyddo ac yn annog Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn weithredol i'n holl staff; efallai y byddwn hyd yn oed yn gallu cyfrannu at y ffioedd ar gyfer graddau uwch a chymwysterau eraill sy'n ddefnyddiol i'ch swydd.


Ar ben hyn i gyd, mae gweithio yn y Coleg yn rhoi'r fraint inni fod yn rhan o helpu ein dysgwyr a'n cymunedau i lwyddo a ffynnu.


Mae Grwp Colegau NPTC yn cynnig llawer mwy na chyflogau da yn unig!

Beware of fraud agents! do not pay money to get a job

MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.


Job Detail

  • Job Id
    JD3510951
  • Industry
    Not mentioned
  • Total Positions
    1
  • Job Type:
    Full Time
  • Salary:
    Not mentioned
  • Employment Status
    Permanent
  • Job Location
    Neath, WLS, GB, United Kingdom
  • Education
    Not mentioned