Oriau: 37.5 awr/wythnos
Swydd barhaol
Cyflog: 30,000-32,000 yn dibynnu ar brofiad
Yn adrodd i: Cyfarwyddwr
Chi fydd yn rheoli: Tim cadwraeth
Dyddiad cau ceisiadau: 09:00, dydd Llun 1 Medi 2025
Dyddiad cyfweliad:10 Medi 2025
Mae hwn yn gyfle anhygoel i arwain a rheoli gwaith cadwraeth ymarferol Cymdeithas Eryri. Rydym yn elusen gofrestredig sy'n gweithio i amddiffyn a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Parc Cenedlaethol Eryri. Fel rhan o'n Cynllun Strategol, rydym yn gweithio gyda sefydliadau partner i gyflawni gwaith cadwraeth ymarferol, yn gweithio gyda gwirfoddolwyr yn aml. Rydym yn chwilio am weithiwr amgylcheddol proffesiynol profiadol a galluog i arwain ein gwaith cadwraeth, arwain ein tim cadwraeth, a chyfleu ein gwaith.
Mae hon yn swydd bwysig o fewn y Gymdeithas. Os ydych chi'n amgylcheddwr profiadol a brwdfrydig sydd eisiau gwneud gwahaniaeth, dyma'r swydd i chi.
Eich rol chi fydd rheoli ein tim cadwraeth ymarferol, trefnu ac arwain rhaglen o ddyddiau gwaith gwirfoddol ymarferol gan gynnwys cydlynu staffio ac arweinwyr, asesiadau risg, recriwtio gwirfoddolwyr, trefniadau ymarferol, cyhoeddusrwydd i gyfleoedd a gwaith a wneir, cofnodi gweithgaredd gwirfoddolwyr ac adrodd ar waith a gwblhawyd. Byddwn yn recriwtio dau aelod ychwanegol o'n tim cadwraeth yn fuan ar ol i chi ddechrau a bydd gennych rol allweddol wrth lunio rhestr fer a gwneud y penodiadau hyn.
Gan weithio gyda'r Rheolwr Rhaglen a'r Cyfarwyddwr, byddwch yn datblygu rhaglenni gwaith ymarferol hirdymor; yn nodi ac yn blaenoriaethu cyfleoedd gwaith ymarferol gyda phartneriaid, yn sicrhau cyfathrebu da, yn casglu adborth ac yn cymhwyso gwelliant parhaus. Chi fydd prif gyswllt y Gymdeithas a'n sefydliadau partner ynghylch y gwaith hwn.
Byddwch yn rheoli, yn cefnogi ac yn datblygu ein tim cadwraeth gan sicrhau y gallant gyflawni eu rolau a'u dyletswyddau swydd yn effeithiol.
Byddwch yn cynrychioli'r Gymdeithas mewn digwyddiadau ac i grwpiau, mewn partneriaethau ac yn y cyfryngau i feithrin cefnogaeth i'n gwaith.
Byddwch yn arwain ar Iechyd a diogelwch a diogelu ar gyfer ein rhaglen wirfoddoli. Byddwch yn cadw i fyny a chanllawiau, deddfwriaeth ac arfer gorau perthnasol; cydlynu protocolau, cofnodion ac asesiadau risg iechyd a diogelwch a sicrhau bod protocolau Diogelu yn cael eu dilyn.
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.