Rheolwr Caffael Corfforaethol

Llangefni, WLS, GB, United Kingdom

Job Description

Gweithio i Gyngor Sir Ynys Mon



Mae Ynys Mon yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae'n ymwneud a gwella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol a ninnau, sy'n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd a meddylfryd byd busnes, sy'n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu'r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Mon sy'n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.



Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni'n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tim. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o'r buddion y gallwn eu cynnig i'n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Mon

Pwrpas cyffredinol y swydd



Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol am ymagwedd strategol gyffredinol y Cyngor mewn perthynas a chaffael a pholisiau a gweithdrefnau cysylltiedig, yn ogystal a rheoli Tim Caffael y Cyngor sydd yn dim proffesiynol sy'n canolbwyntio ar y cwsmer.



Bydd angen i ddeilydd y swydd sicrhau fod gwasanaeth caffael cadarn ar gael, ynghyd a gwasanaeth cysylltiedig sy'n cynnwys elfennau gweithdrefnol, technegol, cefnogaeth a chyngor, a ddyluniwyd i gwrdd ag anghenion y Cyngor heddiw ac yn y dyfodol o ran gweithgareddau caffael, gan gyfrannu'n gadarnhaol at ddatblygiad parhaus y sefydliad a chyflawni ei amcanion strategol.



Mae'r gallu i weithredu, meddwl a dylanwadu ar lefel strategol yn holl bwysig, gan arddangos sgiliau, ymwybyddiaeth a'r gallu angenrheidiol i arwain ymdrechion a phrosesau i ddadansoddi, dehongli, deall manteision/risgiau, er mwyn penderfynu ar y ffordd orau o ddatblygu a rhoi Strategaeth Gaffael y Cyngor ar waith.



Mae'r Tim Caffael yn gyfrifol am:-



Ddarparu cyngor, arweiniad a hyfforddiant i wasanaethau yngl?n a deddfwriaeth gaffael a deddfwriaeth berthnasol arall, prosesau a gweithdrefnau'r Cyngor ar gyfer caffael a rheoli contractau.

Arwain ymarferion caffael ar ran gwasanaethau pan fydd angen.

Monitro cydymffurfiaeth y Cyngor a deddfwriaeth gaffael a deddfwriaeth berthnasol arall a chanllawiau gorfodol Llywodraeth y Deyrnas Unedig / Llywodraeth Cymru, a Rheolau Gweithdrefn Caffael y Cyngor.

Monitro ac adrodd ar berfformiad yn gysylltiedig a materion caffael o fewn y Cyngor.

Ymgynghori a thim cyfreithiol y Cyngor ar faterion yn ymwneud a chontractau, y gyfraith neu reoliadau.
Rheoli agweddau caffael a rheoli contractau nifer o gontractau o fewn y Cyngor, gan gynnwys (ond heb eu cyfyngu i) ynni, llungopio, cyflenwadau swyddfa, dodrefn, a chyflenwadau TG.


Cynnal cofrestr contractau'r Cyngor a sicrhau bod gwasanaethau'n ei diweddaru.

Gweinyddu a rhoi cyfrif am wariant ar gardiau credyd y Cyngor.

Mwy o wybodaeth

Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.





Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.



Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.


Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r fanyleb person i'ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.



Manylion cyswllt

Enw:

Marc Jones


Rhif ffon:

01248 752601


Cyfeiriad e-bost:

MarcJones@ynysmon.llyw.cymru



Job Reference: CORP100575

Beware of fraud agents! do not pay money to get a job

MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.


Related Jobs

Job Detail

  • Job Id
    JD4290606
  • Industry
    Not mentioned
  • Total Positions
    1
  • Job Type:
    Full Time
  • Salary:
    Not mentioned
  • Employment Status
    Full Time
  • Job Location
    Llangefni, WLS, GB, United Kingdom
  • Education
    Not mentioned