Mae Ynys Mon yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae'n ymwneud a gwella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol a ninnau, sy'n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd a meddylfryd byd busnes, sy'n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu'r safonau uchaf posibl.
Ein nod yw creu Ynys Mon sy'n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Pwrpas cyffredinol y swydd
Arwain, rheoli, datblygu a bod yn atebol am Adain Gyfreithiol y Cyngor, ei aelodau staff a'u gwaith o ran darparu cyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol ar gyfer y Cyngor, ei bwyllgorau, ei aelodau etholedig a swyddogion wrth iddynt gyflawni ei dyletswyddau a'u cyfrifoldebau. Bod yn Ddirprwy Swyddog Monitro ar gyfer y Cyngor, a chynorthwyo'r Swyddog Monitro i gyflawni cyfrifoldebau'r rol honno.
Mwy o wybodaeth
Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r fanyleb person i'ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.
Manylion cyswllt
Enw:
Lynn Ball
Rhif ffon:
01248 752586
Cyfeiriad e-bost:
lynnball@ynysmon.llyw.cymru
Job Reference: CORP100391
Beware of fraud agents! do not pay money to get a job
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.