Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i gynnig profiad rhagorol i fyfyrwyr a chefnogi lles a datblygiad ein staff. Mae'r rol hanfodol hon yn gyfle unigryw i ymgysylltu ag ystod eang o rhanddeiliaid ar draws ein campysau, gan gymryd rhan ymarferol wrth ddarparu amgylchedd diogel, cynaliadwy, croesawgar a gwydn.
Bydd y Rheolwr IDA yn chwarae rhan allweddol wrth ymgorffori ein gwerthoedd craidd - cynaliadwyedd, gwydnwch, ac aliniad strategol - yn ein gweithgarwch o ddydd i ddydd. Bydd deiliad y swydd yn arwain ac yn hybu gweithgarwch sy'n sicrhau cydymffurfiaeth, yn hyrwyddo arferion gorau ac yn meithrin diwylliant o welliant parhaus mewn perthynas ag iechyd, diogelwch ac amgylchedd.
Dyma gyfle unigryw i unigolion sy'n angerddol am wneud gwahaniaeth. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyfrannu yn uniongyrchol at lwyddiant y Coleg drwy feithrin ymdeimlad cadarnhaol tuag at les a gallu - gan ysgogi staff a myfyrwyr i berfformio hyd eithaf eu gallu.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn defnyddio dulliau positif a rhagweithiol yn ei waith ledled campysau'r Coleg, gan lywio dyfodol ein myfyrwyr a'r gymuned ehangach. Mae'r rol yn ddelfrydol ar gyfer unigolyn sy'n ffynnu mewn amgylchedd bywiog a chydweithredol ac sy'n ymrwymedig i wreiddio cynaliadwyedd a diogelwch yn ein gweithgarwch.
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.