Mae Ynys Mon yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae'n ymwneud a gwella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol a ninnau, sy'n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd a meddylfryd byd busnes, sy'n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu'r safonau uchaf posibl.
Ein nod yw creu Ynys Mon sy'n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Pwrpas cyffredinol y swydd
Darparu arweiniad a chefnogaeth er mwyn cefnogi'r blynyddoedd cynnar, gan sicrhau gofal plant o ansawdd uchel trwy ddarparu mewnbwn a chefnogaeth arbenigol sy'n cefnogi'r gwaith o gyflawni rhaglenni blynyddoedd cynnar a'u llwyddiant, trwy leoli plant a gofalu amdanynt yn effeithiol mewn lleoliadau gofal plant. Mae pwyslais ar ddarparu gofal plant o ansawdd uchel ar gyfer plant dwy a thair oed fel rhan o Raglen Dechrau'n Deg Llywodraeth Cymru.
Pwrpas y rol hon yw:
Arwain a rheoli tim o staff gofal plant yn effeithiol a datblygu tim effeithiol sy'n anelu i
hyrwyddo dysgu a datblygiad a datblygu ymarfer o'r radd flaenaf yn y ddarpariaeth
blynyddoedd cynnar allanol a mewnol.
Cydweithio ag eraill er mwyn cwrdd a disgwyliadau Cyngor Sir Ynys Mon (CSYM), Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) a rhaglenni plant Llywodraeth Cymru (LlC) mewn perthynas a gofal plant o ansawdd uchel, gan weithio gyda darparwyr gofal plant preifat, gwirfoddol ac annibynnol, a darparwyr gofal plant mewnol, fel rhan o'n nod o ddatblygu gofal plant hygyrch, cynhwysol ac o ansawdd sy'n diwallu anghenion plant ac yn sicrhau fod darpariaeth wedi'i chyfoethogi ar gael.
Darparu cyngor a chefnogaeth i'r sector blynyddoedd cynnar mewn perthynas a nifer o faterion, gan gynnwys hyrwyddo'r Gymraeg a dwyieithrwydd.
Bydd deilydd y swydd yn rhan o dim sy'n hyrwyddo safonau ansawdd a chefnogi nodau rhaglenni gwrthdlodi Llywodraeth Cymru.
Mwy o wybodaeth
Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.
Penodiad yn ddibynnol ar Gwiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r fanyleb person i'ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.
Manylion cyswllt
Enw:
Bethan Hywel Jones
Rhif ffon:
07887823550
Cyfeiriad e-bost:
BethanHJones@ynysmon.llyw.cymru
Job Reference: CORP100350
Beware of fraud agents! do not pay money to get a job
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.