Mae Ynys Mon yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae'n ymwneud a gwella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol a ninnau, sy'n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd a meddylfryd byd busnes, sy'n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu'r safonau uchaf posibl.
Ein nod yw creu Ynys Mon sy'n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Pwrpas cyffredinol y swydd
Darparu cefnogaeth gyffredinol weinyddol/ariannol i'r ysgol dan gyfarwyddyd ac arweiniad staff uwch.
Mwy o wybodaeth
Penodiad yn ddibynnol ar wiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol.
Lleoliad: Mae hwn yn swydd wag ar gyfer Ysgolion Ffederasiwn Gwel y Glannau. Mae'r swydd wedi'i rhannu rhwng Ysgol Goronwy Owen a Ysgol Moelfre.
Gweler y swydd ddisgrifiad am fwy o wybodaeth ac ar gyfer y gofynion sgiliau iaith Gymraeg y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y ffurflen gais a'r disgrifiad swydd/manyleb person.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r fanyleb person i'ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y ddwy ddogfen hyn yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.
Manylion cyswllt a chyflwyno ffurflenni cais
Enw: Mr Elfed Morgan Morris
Rhif ff
o
n: 01248 852 667
Cyfeiriad e-bost:
6602170_pennaeth.goronwyowen@Hwbcymru.net
Ffurflenni cais i'w dychwelyd i: Ysgol Goronwy Owen, Benllech, Ynys Mon, LL74 8SG
Dyddiad Cau:
Hanner dydd, Dydd Gwener, 11 Gorffennaf 2025
Job Reference: SCH00153
Beware of fraud agents! do not pay money to get a job
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.