Mae Ynys Mon yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae'n ymwneud a gwella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol a ninnau, sy'n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd a meddylfryd byd busnes, sy'n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu'r safonau uchaf posibl.
Ein nod yw creu Ynys Mon sy'n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Pwrpas cyffredinol y swydd
Pwrpas Cyffredinol y Swydd
Darparu cefnogaeth fugeiliol i fyfyrwyr ar draws cyfnod allweddol, gan weithio gyda'r Pennaeth Cynorthwyol sy'n gyfrifol am y tim bugeiliol a'r Rheolwr Cynhwysiant.
Gweithio gyda thiwtoriaid, uwch staff a staff cefnogi i sicrhau bod myfyrwyr yn llwyddiannus, yn hyderus ac yn hapus.
Sicrhau bod disgyblion yn dilyn disgwyliadau uchel yr ysgol, yn yr ystafell ddosbarth a'r tu allan.
Cymryd rhan yn y prosesau a'r gweithdrefnau pontio o gyfnodau allweddol a grwpiau blwyddyn.
Sefydlu a chynnal perthynas gadarnhaol a rhieni.
Gweithio'n agos gyda'r tim bugeiliol i sicrhau bod anghenion addysgol, emosiynol a chymdeithasol myfyrwyr, yn enwedig myfyrwyr difreintiedig a bregus yn cael eu bodloni.
Sicrhau bod profiadau myfyrwyr yn adlewyrchu ein huchelgais ar gyfer ysgol hapus a phwrpasol lle mae pob myfyriwr yn cymryd rhan weithredol yn eu dysgu eu hunain.
Cefnogi'r rhaglen o wasanaethau ar gyfer y gr?p blwyddyn a chyfrannu at weithgareddau ABGI.
O dan arweiniad y Cydlynydd Cyfnod Allweddol, cefnogi'r cynnydd academaidd a sicrhau bod ymyriadau addysgol/bugeiliol effeithiol yn cael eu rhoi ar waith i alluogi pob myfyriwr i fod yn llwyddiannus.
Cyfrannu at Llais y Myfyrwyr a sicrhau bod y gr?p blwyddyn yn cael ei gynrychioli'n dda.
Mynychu hyfforddiant diogelu dynodedig a bod yn rhan o'r tim diogelu.
Cynnal disgyblaeth yn unol a gweithdrefnau'r ysgol, ac annog arfer da o ran presenoldeb, prydlondeb, ymddygiad, safonau gwaith ac astudiaeth annibynnol.
Chwarae rhan lawn ym mywyd cymunedol yr ysgol, cefnogi ei nodau a'i hethos unigryw ac annog staff a myfyrwyr i ddilyn yr esiampl hon.
Gyda'r Arweinydd Diogelu Dynodedig, bod yn gyfrifol am ddiogelu ac amddiffyn plant (gan gynnwys diogelwch ar-lein) gan sicrhau bod yr ysgol yn bodloni ei gofynion statudol cyfreithiol fel y nodir yng Ngweithdrefnau Diogelu Cymru.
Bod yn gyfrifol am gysylltu a gwasanaethau ac asiantaethau plant statudol lleol ac a'r partneriaid Diogelu lleol allweddol. Cymryd rhan mewn trafodaethau a chyfarfodydd rhyngasiantaethol i gyfrannu at asesu plant.
Rheoli cyfeiriadau mewnol ac allanol.
Darparu cymorth, cyngor ac arweiniad i staff eraill ar faterion lles, diogelu ac amddiffyn plant.
Derbyn hyfforddiant Lefel 2 a 3 a'i ddiweddaru bob dwy flynedd
Mwy o wybodaeth
Penodiad yn ddibynnol ar wiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol a chofrestriad CGA.
Gweler y swydd ddisgrifiad am fwy o wybodaeth ac ar gyfer y gofynion sgiliau iaith Gymraeg y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y ffurflen gais a'r disgrifiad swydd/manyleb person.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r fanyleb person i'ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y ddwy ddogfen hyn yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.
Manylion cyswllt a chyflwyno ffurflenni cais
Enw: Mrs Stella Dennis-Bunting
Rhif ff
o
n: 01407 762219
Cyfeiriad e-bost:
Denniss3@hwbcymru.net
Ffurflenni cais i'w dychwelyd trwy ebost i:
Denniss3@hwbcymru.net
Dyddiad Cau:
Hanner dydd, Dydd Gwener, 19 Medi 2025
Job Reference: SCH00171
Beware of fraud agents! do not pay money to get a job
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.