Mae Ynys Mon yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae'n ymwneud a gwella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol a ninnau, sy'n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd a meddylfryd byd busnes, sy'n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu'r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Mon sy'n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni'n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tim. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o'r buddion y gallwn eu cynnig i'n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Mon
Pwrpas cyffredinol y swydd
Bydd deilydd y swydd yn aelod gwerthfawr o'r Tim Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol ar draws Gogledd-Orllewin Cymru, sef gweithio ar draws Siroedd Ynys Mon, Gwynedd a Chonwy i sicrhau bod egwyddorion Rhaglen Waith Cydlyniant Cymunedol Llywodraeth Cymru'n cael eu cyflawni ac yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl, ar bolisi ac ar ddarpariaeth gwasanaeth o fewn y tri awdurdod lleol.
Yn benodol, bydd deilydd y swydd yn cefnogi awdurdodau lleol Ynys Mon, Gwynedd a Chonwy a phartion sector cyhoeddus eraill a'r sector gwirfoddol i wella Cydlyniant Cymunedol drwy gynlluniau gwaith a mentrau lleol a chenedlaethol.
Mwy o wybodaeth
Penodiad yn ddibynnol ar Gwiriad GDG (DBS) lefel
safonol
boddhaol.
Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r fanyleb person i'ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.
Manylion cyswllt
Enw:
Yasmin Kamal-Jones
Rhif ffon:
01248 752269
Cyfeiriad e-bost:
yasminjones@ynysmon.llyw.cymru
Job Reference: CORP100511
Beware of fraud agents! do not pay money to get a job
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.