Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o 50 miliwn, sy'n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.
Y rol:
Ydych chi'n angerddol am gefnogi myfyrwyr a gwneud gwahaniaeth ym myd addysg? Rydym yn chwilio am Swyddogion Cymorth Addysg brwdfrydig i lenwi swyddi amryfal ar draws sifftiau amrywiol, gan gynnig cyfleoedd hyblyg i helpu dysgwyr i ffynnu.
Yn Ystod y Tymor (36 wythnos y flwyddyn)
Cyfnod Penodol tan Awst 2026
12.80 - 13.07 yr awr
Campws Tycoch
Oriau ar gael:
(1) 19.5 oriau yr wythnos
(2) 27.5 oriau yr wythnos
(3) 24 oriau yr wythnos
Nodwch yn eich Datganiad Personol ba oriau fyddai'n well gennych.
Cyfrifoldebau Allweddol:
Rhoi cymorth addysgol, emosiynol, cymdeithasol a phersonol i fyfyrwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol
Cymryd rhan a chefnogi darpariaeth rhaglenni dysgu yn unol a chyfarwyddyd y darlithwyr
Cynorthwyo i godi a chario myfyrwyr ag anghenion gofal personol yn unol a'r cynllun gofal unigol
Amdanoch chi:
TGAU Mathemateg a Saesneg: Gradd A - C neu gyfwerth
Profiad o weithio gyda phobl ifanc mewn swydd debyg
Dealltwriaeth dda o ddiogelu a chefnogi dysgwyr ag anghenion ychwanegol
Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol hyderus, gwydn
Buddion:
28 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae'r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2024)
2 ddiwrnod lles i staff
Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau'r Coleg
Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recriwtio/buddion-a-lles
Angen cymorth gyda'ch cais?
Cliciwch ein tudalen canllaw.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo'u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu'n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi'u cynrychioli'n ddigonol o fewn ein sefydliad.
Os hoffech ymgymryd a'r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i'n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a'r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio a'r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd a gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno'ch cais yn gynnar.
Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).
Beware of fraud agents! do not pay money to get a job
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.