Swyddog Gweinyddola Marchnata

Lampeter, WLS, GB, United Kingdom

Job Description

Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Ceredigion



Dyma un o fudiadau gorau ieuenctid cefn gwlad Ceredigion! Mae'r mudiad yn cynnig cyfleon a phrofiadau arbennig ac mae'n apelio at bob oedran a chefndir.

Nod y Rol



Mae Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Ceredigion yn awyddus i gyflogi Swyddog Gweinyddol a Marchnata i gefnogi'r Trefnydd wrth baratoi a darparu rhaglen eang o weithgareddau a datblygu gwaith y ffederasiwn, gan gynnwys cynllunio a chydlynu ein presenoldeb ar-lein.

Prif Gyfrifoldebau



Dyletswyddau



Darparu cymorth gweinyddol cyffredinol hyblyg a dibynadwy o ddydd i ddydd i sicrhau fod gweithgareddau'r mudiad yn cael eu cynnal yn effeithiol, e.e. ateb ffon, teipio, postio, ffeilio

Cynorthwyo'r Trefnydd i hwyluso rheolaeth ariannol y mudiad gyda chefnogaeth gweinyddol, e.e. prosesu anfonebau, cyfrif arian, mynd i'r banc

Gweithredu holl bolisiau, gweithdrefnau a phrosesau'r mudiad yn effeithiol

Delio gydag ymholiadau cyffredinol yn broffesiynol ac effeithlon

Mynychu cyfarfodydd yn ol yr angen, paratoi agendau a chymryd cofnodion clir, cryno a chywir

Sicrhau bod cronfa ddata aelodau a systemau ar gyfer casglu gwybodaeth a deilliannau'r ffederasiwn yn cael eu cynnal a'u bod yn gyfredol ac yn gywir

Cynorthwyo'r Trefnydd i drefnu portffolio o weithgareddau a digwyddiadau, yn lleol a chenedlaethol, a mynychu gweithgareddau a digwyddiadau yn ol yr angen, e.e. Cystadleuaeth Adloniant, Diwrnod Maes, Rali, Cystadlaethau Chwaraeon, Siarad Cyhoeddus, Eisteddfod

Sicrhau bod gweithgareddau a digwyddiadau'n rhedeg yn esmwyth, gan weithredu'n brydlon ac yn broffesiynol i ddatrys unrhyw broblemau sy'n codi

Trefnu lleoliadau addas ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau ac ymdrin yn broffesiynol a beirniaid, llywyddion, noddwyr, isgontractwyr ayyb

Cynllunio, darparu a chydlynu gweithgareddau marchnata a chyfathrebu effeithiol, gan gynnwys defnyddio gweithgareddau arloesol yn y cyfryngau, ar-lein ac mewn digwyddiadau

Creu a llwytho cynnwys i wefan a sianelau cyfryngau cymdeithasol y mudiad, gan sicrhau cynnwys cywir, amrywiol ac ymgysylltiol sy'n berthnasol i'r gynulleidfa

Prawf ddarllen copi'n gydwybodol (boed yn ddatganiadau i'r wasg, ymgyrchoedd cymdeithasol/digidol yn y cyfryngau, cynnwys ar y we a/neu gyhoeddiadau mewn print ayyb), gan sicrhau bod unrhyw wallau neu ymholiadau am ramadeg, sillafu, atalnodi, arddull a/neu gywirdeb yn cael eu canfod a'u cywiro

Golygu llyfr Cwysi C.Ff.I. Ceredigion (llyfr blynyddol y Sir)

Datblygiad Personol



Ymgymryd yn rhagweithiol a rhaglen hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus

Arall



Sicrhau bod y safonau'n cael eu cyrraedd ar gyfer diogelu pobl ifanc, ansawdd, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch

Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau eraill fel y bo'n ofynnol

Cynrychioli Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Ceredigion yn ol yr angen

Ystyrir ceisiadau i weithio yn hybrid

Sgiliau a Phrofiad



Hanfodol neu Dymunol



Dealltwriaeth o strwythur, cefndir a gweithrediad y C.Ff.I.

Sgiliau gweinyddol cyffredinol rhagorol a sgiliau trefnu a chydlynu o'r radd flaenaf

Gweithio'n dda fel aelod o dim, gyda'r gallu i weithio'n annibynnol yn ol yr angen

Gallu mewnbynnu data'n gywir a chadw data mewn cydymffurfiaeth a deddfau diogelu data perthnasol

Profiad o ddefnyddio offer ar-lein megis gwefan y sir a sianelau cyfryngau cymdeithasol, e.e. Facebook, Twitter, Instagram, Snapchat a dealltwriaeth o sut y gellir defnyddio pob llwyfan mewn gwahanol sefyllfaoedd

Sgiliau cyfathrebu dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) llafar rhagorol, gyda chywirdeb ysgrifenedig yn y ddwy iaith

Ar gael i weithio gyda'r nos ac ar benwythnosau yn ol gofynion y swydd

Trwydded yrru lawn a char i'w ddefnyddio

Oriau Gwaith



Oriau gwaith arferol y swydd yw 37.5 awr yr wythnos. Er hyn, bydd gofyn i chi weithio oriau pellach sydd yn angenrheidiol i ymgymryd a gofynion y swydd yn effeithiol, gan gynnwys gweithio gyda'r nos ac ar benwythnosau (medrwch hawlio'r oriau yn ol yn unol a thermau'r cytundeb). Mae gennych hawl i 20 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn, yn cynyddu i 25 diwrnod ar ol 5 mlynedd o wasanaeth parhaol, yn ogystal a'r gwyliau banc. Gellir gweithio yn hybrid rhwng y cartref a'r swyddfa ar gampws Theatr Felinfach ond bydd yn rhaid gweithio o'r swyddfa o leiaf dri diwrnod yr wythnos.

Costau Teithio



Telir costau teithio ar raddfa gydnabyddedig.

Gwneud Cais



Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch ac Enfys Evans, Cadeirydd Pwyllgor Rheoli a Chyllid, ar 07817 074986 neu ar e-bost enmed@hotmail.com

Gallwch wneud cais am y swydd hon drwy ddychwelyd CV a llythyr cais at

enmed@hotmail.com.

Ar ol darllen y fanyleb swydd, dylai'r llythyr cais esbonio pam y credwch eich bod yn addas ar gyfer y swydd hon, , yn ogystal a'ch rhesymau dros geisio am y swydd. Croesawir i chi hefyd cynnwys unrhyw wybodaeth berthnasol arall y teimlwch y gallai fod o fantais i chi yn eich cais.

Dylai'r CV amlinellu manylion:

personol (enw, cyfeiriad, rhif ffon a/neu gyfeiriad e-bost)

addysgol a chymwysterau

aelodaeth o gyrff proffesiynol

swydd bresennol

swyddi blaenorol

profiadau perthnasol

unrhyw gollfarnau troseddol sydd heb ddarfod sydd gennych

enw, cyfeiriad a chyfeiriad e-bost dau ganolwr: eich cyflogwr diweddaraf ac un a fyddai'n medru rhoi geirda cymeriad

Cyfweliadau

Cynhelir cyfweliadau i'r rhai a ddewisir i'r rhestr fer ar ddydd Mawrth 12fed o Awst.

Os yw'r dyddiad hwn yn anghyfleus, nodwch hynny yn eich llythyr cais os gwelwch yn dda.

Dyddiad Cau



Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 12 o'r gloch (canol nos), nos Lun 4ydd o Awst 2025.

Job Type: Full-time

Work Location: In person

Application deadline: 04/08/2025
Expected start date: 25/08/2025

Beware of fraud agents! do not pay money to get a job

MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.


Job Detail

  • Job Id
    JD3356132
  • Industry
    Not mentioned
  • Total Positions
    1
  • Job Type:
    Full Time
  • Salary:
    Not mentioned
  • Employment Status
    Permanent
  • Job Location
    Lampeter, WLS, GB, United Kingdom
  • Education
    Not mentioned