Swyddog Diogelu Ac Adolygu Annibynnol

Llangefni, WLS, GB, United Kingdom

Job Description

Gweithio i Gyngor Sir Ynys Mon



Mae Ynys Mon yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae'n ymwneud a gwella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol a ninnau, sy'n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd a meddylfryd byd busnes, sy'n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu'r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Mon sy'n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.



Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni'n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tim. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o'r buddion y gallwn eu cynnig i'n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Mon

Pwrpas cyffredinol y swydd



Cadeirio Adolygiadau Statudol ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal a Chynadleddau Diogelu Plant, craffu trefniadau gofal a chefnogaeth ar gyfer plant a phobl ifanc, a'r rheiny sy'n derbyn gofal gan yr Awdurdod Lleol, yn annibynnol.



Cyfrannu at systemau ar gyfer monitro effeithiolrwydd ac ansawdd proses y gynhadledd achosion diogelu plant, gan sicrhau bod gofynion Rhan 6 a 7 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant [Cymru] a Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn cael eu bodloni.



Sefydlu, monitro ac adolygu cynlluniau gofal a chefnogi'n effeithiol, fel bo plant sydd mewn perygl o gael eu cam-drin, eu hamddifadu neu ei niweidio wedi'u diogelu.



Cyfrannu at systemau sicrhau ansawdd ar gyfer monitro effeithiolrwydd ac ansawdd adolygiadau Plant sy'n Derbyn Gofal (LAC) a'r broses diogelu plant, gan sicrhau bod yr holl ofynion statudol yn cael eu cyflawni, a bod y broses adolygu LAC yn cael ei defnyddio i sicrhau bod cynlluniau gofalu a chefnogi effeithiol yn cael eu darparu er mwyn cynnig lleoliadau sefydlog i blant sy'n derbyn gofal.



Cyfrannu at y Fframwaith Sicrhau Ansawdd a'i brosesau gwella, gan sicrhau bod gwasanaeth o ansawdd yn cael ei ddarparu i'r plant a phobl ifanc hynny sy'n derbyn gofal gan y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.

Mwy o wybodaeth

Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.





Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.



Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.



Penodiad yn ddibynnol ar Gwiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol


Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r fanyleb person i'ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.



Manylion cyswllt

Enw:

Michelle Evans


Rhif ffon:

01248 752729


Cyfeiriad e-bost:

michelleevans@ynysmon.llyw.cymru



Job Reference: CORP100489

Beware of fraud agents! do not pay money to get a job

MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.


Job Detail

  • Job Id
    JD3615469
  • Industry
    Not mentioned
  • Total Positions
    1
  • Job Type:
    Full Time
  • Salary:
    Not mentioned
  • Employment Status
    Permanent
  • Job Location
    Llangefni, WLS, GB, United Kingdom
  • Education
    Not mentioned