Mae'r swydd hon yn amodol ar Ddatgeliad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Plant).
SWYDD CYNORTHWYYDD ADDYSGU LEFEL 2 i Weithio Mewn Dosbarth Blwyddyn 1 a 2
dros dro tan 31 / 08 / 2026
27.5 awr yr wythnos am 39 wythnos
Mae'r Corff Llywodraethu yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig a dibynadwy i ymuno a'r ysgol hapus a llwyddiannus hon. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio o dan gyfarwyddyd ac arweiniad y staff addysgu i ymgymryd a rhaglenni gwaith, gofal a chynnig cefnogaeth gyffredinol i'r staff a disgyblion. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus cefnogi ethos gefnogol yr ysgol.
Mae'r swydd yma am 27.5 awr yr wythnos, 39 wythnos y flwyddyn.
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwbl ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymroddiad hwn. Mae gan ein hysgolion yr un ymroddiad i sicrhau bod ein holl blant a phobl ifanc yn cael eu diogelu a'u hamddiffyn a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Wrth wraidd y broses recriwtio ar gyfer y swydd hon bydd asesiad recriwtio mwy diogel trylwyr i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn.
Dyddiad Cau: 12:00, Dydd Mercher 26ain o Dachwedd 2025
Job Type: Part-time
Pay: 15,891.00-16,396.00 per year
Expected hours: 27.5 per week
Work Location: In person
Beware of fraud agents! do not pay money to get a job
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.