Mae'r Ardal Ddysgu Busnes a Thechnoleg yn dymuno penodi Darlithwyr Banc profiadol, dawnus ac ymroddedig i ymuno ag Adran Economeg y Coleg. Gyda phrofiad o addysgu Economeg mewn lleoliad ol-16, dylai ymgeiswyr feddu ar radd berthnasol a chymhwyster addysgu cydnabyddedig neu fod yn barod i weithio tuag at un.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu addysgu'n llwyddiannus ar ein rhaglen Economeg Lefel A ac yn gallu cyflwyno modiwlau Economeg ar gyrsiau eraill o fewn yr ardal ddysgu hyd at Lefel 5. (Mae'r gallu i addysgu'r cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru hefyd yn fanteisiol iawn.)
Y rol:
Darlithydd Banc mewn Economeg
Achlysurol
Parhaol
25,371 - 49,934 y flwyddyn
Wedi'i leoli yng Ngorseinon
Cyfrifoldebau Allweddol:
Bod yn ymrwymedig i welliant parhaus, cyfrannu at ddatblygiadau'r cwricwlwm a chynorthwyo gyda chynllunio effeithiol o fewn cyrsiau.
Darparu addysgu a dysgu o ansawdd uchel, gan gynnwys defnyddio TGCh yn effeithiol, a chreu amgylchedd cadarnhaol i alluogi pob dysgwr i gyrraedd ei botensial llawn o ran datblygiad academaidd, cymdeithasol a phersonol.
Gweithio gyda Rheolwr yr Ardal Ddysgu i osod targedau a monitro perfformiad o ran recriwtio, presenoldeb, cadw, cyrhaeddiad a chwblhau'n llwyddiannus.
Cyfrannu'n effeithiol at weithgareddau allgyrsiol, marchnata a hyrwyddo cyrsiau.
Amdanoch chi:
Meddu ar radd mewn Economeg neu radd berthnasol arall.
Meddu ar gymhwyster addysgu cydnabyddedig neu fod yn barod i weithio tuag at un.
Dangos profiad llwyddiannus o addysgu Economeg Lefel A.
Sgiliau trefnu rhagorol a gallu gweithio'n dda fel aelod o dim.
Parodrwydd i weithio'n hyblyg i ateb anghenion y cwricwlwm a'r dysgwyr.
Yn seiliedig yng Ngorseinon, byddwch yn addysgu Economeg Lefel A a modiwlau Economeg ar draws rhaglenni Busnes Lefel 3/4/5. (Mae'r gallu i addysgu'r Tystysgrif Her Sgiliau Uwch yn fanteisiol iawn.)
Buddion:
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2024)
Cynllun Pensiwn Athrawon a chyfraniad cyflogwr o 28.68% ar gyfartaledd (2024)
2 ddiwrnod lles i staff
Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau'r Coleg
Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recriwtio/buddion-a-lles
Angen cymorth gyda'ch cais?
Cliciwch ein tudalen canllaw.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo'u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi'u cynrychioli'n ddigonol o fewn ein sefydliad.
Os hoffech ymgymryd a'r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i'n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a'r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio a'r ymrwymiad hwn. Bydd penodiad yn amodol ar wiriad DBS estynedig a chofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg Cymru.
Cyflog Cyfatebol Llawn Amser:
25,371 - 49,934 y flwyddyn yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad.
Beware of fraud agents! do not pay money to get a job
MNCJobs.co.uk will not be responsible for any payment made to a third-party. All Terms of Use are applicable.